I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Llwybrau Treftadaeth
LLWYBRAU TREFTADAETH
Yn gryno. Dod i adnabod Conwy, Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn.
Er mwyn eich arwain i’r cyfeiriad cywir rydym wedi creu pedwar llwybr tref arbennig.
Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd siopa i draethau euraid, o erddi i bentir y Gogarth. Ar hyd y daith byddwch yn darganfod pam y mae tref Llandudno yn edrych fel ag y mae – y gyrchfan Fictoraidd berffaith – a sut y mae’r dref wedi llwyddo i gadw’i hymddangosiad gwreiddiol dros y blynyddoedd. Bydd cyfle hefyd i chi ddarganfod am gysylltiadau’r dref ag Alys yng Ngwlad Hud a dod o hyd i flwch llythyrau chwe-ochrog Fictoraidd sydd wedi llwyddo i oroesi, yn union fel y dref ei hun.
Saif pentref tawel Llandrillo-yn-Rhos y drws nesaf. Ond nid yw’r pentref yn rhy swil i ddangos ei ragoriaethau ar Daith Cerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos sy’n cynnwys 26 lleoliad. Mae nifer o bethau annisgwyl i’w darganfod ar bob cam o’r daith gerdded hawdd hon. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Eglwys fechan Sant Trillo, tybir mai hon yw eglwys leiaf Prydain (does dim ond lle i chwech eistedd ynddi), hanes morwrol ar lan y môr a’r harbwr (yn cynnwys hanes Tywysog Madog yn darganfod America), a bryngaer hynafol Bryn Euryn.
Mae Llwybr Treftadaeth Bae Colwyn hefyd yn eich arwain yn ôl i’r gorffennnol. Ar eich taith o amgylch 29 lleoliad gwahanol, bydd olion oes aur y dref fel cyrchfan wyliau brysur yn dod i’r amlwg ym mlaenau cain y siopau a’r adeiladau talcennog. Mae’n ddifyr iawn cymharu lluniau o’r dref ddoe â heddiw – edrychwch ar yr hen ffotograff yn llyfryn y llwybr o Bictiwrs y Princess, sydd bellach yn Dafarn Wetherspoons. Mae Theatr Colwyn yn dal i sefyll. Dywedir mai’r berl Fictoraidd hon, a adeiladwyd ym 1885, yw’r theatr hynaf sy’n dal ar agor yng Nghymru.
Llwybr Tref Conwy – beth am gymryd y daith 80 munud hon o Gonwy i weld rhai o nodweddion mwyaf diddorol y dref gaerog a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma gyfle i ddarganfod hanes hynod y dref, o’i chychwyniad canoloesol cynnar hyd heddiw. Mewn mannau bydd codau QR HistoryPoints ar blaciau bach neu ar sticeri ffenestri. Defnyddiwch sganiwr QR (sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein) ar eich ffôn clyfar neu lechen i ddarganfod mwy o wybodaeth fanwl neu ymwelwch â www.historypoints.org.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl