I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Pobl a Lleoedd
POBL A LLEFYDD
Yn gryno. O dywysogion Cymreig i Asiant 007 a Alys yng Ngwlad Hud.
Does wybod pwy y dewch ar eu traws yn yr ardal hon. Mae’r actor Timothy Dalton, a oedd yn chwarae rhan James Bond yn The Living Daylights a Licence to Kill, yn hannu o Fae Colwyn.
Ni allwn honni i Alys yng Ngwlad Hud ddiflannu i lawr twll cwningen yn Llandudno, ond fe wnaeth Alice Liddell, a ysbrydolodd y cymeriad, dreulio ei gwyliau yma fel plentyn – dilynwch Llwybr Alys i ddarganfod mwy am y stori ryfeddol.
Mae gennym ein cysylltiadau brenhinol ein hunain hefyd. Ganwyd Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd ym mhentref mynyddig Dolwyddelan yn y canoloesoedd. Gallwch ymweld â’r castell a gododd Llywelyn ar y grib uchel uwchlaw’r pentref yn y 13eg ganrif. Yn ôl haneswyr, roedd y cymeriad dylanwadol hwn hefyd yn haeddu’r teitl Tywysog Cymru, er na hawliodd ef erioed. Gallwch weld arwydd o’r parch mawr oedd ato yn y fedd-gist garreg addurnedig hardd a luniwyd ar ei gyfer, ac sy’n gorwedd heddiw yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst.
Mae gan Lanrwst fwy o gysylltiadau enwog. Priodolir y bont garreg hardd, sydd yn dal i gael ei defnyddio, i’r pensaer enwog Inigo Jones (1573–1652).
Un arall o linach fonheddig Gymreig oedd y Tywysog Madog, yr anturiaethwr yr honnir iddo ddarganfod America ar ôl hwylio o Landrillo-yn-Rhos ym 1170. Os yw’r hanes yn wir, fe gyrhaeddodd 322 o flynyddoedd cyn Christopher Columbus.
Ac efallai na fyddai Cymru heddiw yr un fath heb yr Esgob William Morgan (1545–1604), a anwyd mewn ffermdy carreg di-nod ger Penmachno. Ef oedd yn gyfrifol am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, gan sicrhau dyfodol i’r iaith. Mae ei gartref, Tŷ Mawr Wybrnant, bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gofadail i ysbryd ei oes a’i gyflawniad aruthrol.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl