I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Treftadaeth Ddiwydiannol
Treftadaeth Ddiwydiannol
Yn gryno. Cerrig, copr, gwlân a chludiant
Nid yw diwydiant wedi’i gyfyngu i’r Chwyldro Diwydiannol a weddnewidiodd Prydain yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Roeddem yn brysur yn cynhyrchu pethau ymhell cyn hynny.
Yn y bryniau uwchben Penmaenmawr gallwch ddarganfod olion ‘ffatri’gynhyrchu bwyeill o’r Oesoedd Cerrig. Mae’n rhaid fod y llyfr archebion yn llawn gan fod bwyeill o Benmaenmawr wedi’u darganfod ym mhob rhan o Brydain.
A allwch chi ddychmygu sut fath o fywyd a gafodd y mwynwyr a fu’n defnyddio dim ond arfau esgyrn a cherrig i gloddio o dan y ddaear? Gallwch ryfeddu at eu llwyddiannau – a phryderu ynghylch eu hamodau gwaith – ym Mwyngloddiau’r Gogarth, Llandudno, lle bu mwynwyr copr o’r Oes Efydd yn gweithio mewn gloddfa danddaearol, y mwyaf i’w darganfod yn y byd, yn ôl pob tebyg.
Yn fwy diweddar, diolch i gyflenwadau digonol o wlân a dwr, sefydlwyd diwydiant gwehyddu llwyddiannus yn Nhrefriw. Mae’r felin wlân, a agorwyd yng nghanol y 19eg ganrif, yn dal i ffynnu. Mae swn y peiriannau i’w clywed o hyd yn cynhyrchu brethyn cartref Cymreig traddodiadol. Ac mae’r felin yn dal i ddefnyddio ynni dwr i yrru’r peiriannau.
Gwelwyd chwyldro ym maes cludiant hefyd. Mae’n anodd iawn dychmygu heddiw, yn oes awyrennau Easyjet a Ryanair, sut brofiad fyddai teithio ar goets fawr am ddyddiau cyn cyrraedd pen eich taith. Ond yn raddol, bu gwelliant yn safon y ffyrdd.
Thomas Telford, peiriannydd mawr Oes Victoria, oedd yn gyfrifol am ddatblygu ffordd yr A5 rhwng Llundain a phorthladd Caergybi ar Fôr Iwerddon. A beth oedd ei ateb i groesi Afon Conwy ym 1826? Wel, codi pont grog hardd, a adeiladwyd mewn arddull sy’n cydweddu â’r castell. Y bont oedd y brif groesfan dros yr afon hyd 1956. Mae’r bont a’r tolldy bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl