I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Treftadaeth Llandudno
LLANDUDNO – O FWYNGLODDIAU’R GOGARTH I OES VICTORIA
Yn gryno. Pier a phromenâd Fictoraidd – a, goeliwch chi, mwyngloddiau cynhanesyddol ar y pentir uwchlaw?
Mae Llandudno yn berffaith. Cafodd y dref ei hadeiladu yn y 19eg ganrif yn un o frîd newydd o gyrchfannau glan-môr, ac mae Llandudno ymhlith un o’r enghreifftiau prin sydd wedi goroesi i’r 21ain ganrif. Er bod nifer o gyrchfannau gwyliau’r Deyrnas Unedig wedi dirywio, mae Llandudno wedi aros yn driw i’w gwreiddiau Fictoraidd – ac wedi elwa ar hynny.
Os ydych yn hoffi pethau Fictoraidd, byddwch wrth eich bodd yma. Mae’r holl nodweddion pensaernïol clasurol yn eu lle. Mae’r adeiladau talcennog, tal, ffenestri crymion mawr, gwaith haearn addurniadol, gwaith plastr cain a strydoedd yn cynnwys siopau dan ganopïau, heb eu difetha gan ddatblygiadau modern anaddas, oll yn creu teimlad o undod a harmoni prin. Mae Pwnsh yn dal i ddadlau gyda Jiwdi, gallwch fynd ar reid ar gefn yr asynnod ar y traeth, a gallwch gerdded 670m/2,200troedfedd i’r môr ar y pier hiraf yng Nghymru, sy’n dal i edrych mor ffres ag erioed.
Pa ryfedd felly bod tref Llandudno yn mwynhau dathlu bywyd yn y 19eg ganrif bob mis Mai, pan gynhelir y Swae Fictoraidd flynyddol: mae’r ŵyl yn cynnwys bandiau’n gorymdeithio ac adloniant stryd, bwytawyr tân a hen gerbydau’r ffair, siacedi streipiog a pharasolau â ffrils.
Neidiwch ar Dramffordd y Gogarth - nodwedd hyfryd arall o’r oes a fu - gan deithio i’r pentir i fwynhau profiad hanesyddol sy’n mynd yn ôl flynyddoedd lawer cyn oes Victoria. Bu pobl o’r cyfnod cynhanesyddol yn cloddio am gopr yma. Mae’r mwyngloddiau o’r Oes Efydd ar agor i ymwelwyr ac yn cynnig cipolwg gwefreiddiol ar fywyd ac amseroedd ein hynafiaid. Cawsant eu darganfod ym 1987 a dros y blynyddoedd mae archeolegwyr wedi datgelu'r hyn a dybir yw mwynglawdd cynhanesyddol mwyaf y byd. Uchafbwynt y daith danddaearol yw’r ogof anhygoel o’r Oes Efydd, a gloddiwyd 3,500 o flynyddoedd yn ôl gan fwynwyr yn defnyddio arfau cerrig ac esgyrn cyntefig.
I ddysgu mwy am daith hanesyddol ryfeddol Llandudno ar hyd yr oesoedd, ewch draw i Amgueddfa Llandudno a’r Home Front Experience, lle cewch flas ar fywyd y ffrynt cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl