I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Gwybodaeth Ddefnyddiol > Data twristiaeth blynyddol STEAM
STEAM
Ystyr STEAM yw Scarborough Tourism Economic Activity Monitor.
Beth yw STEAM?
Mae STEAM yn offeryn modelu economaidd twristiaeth a ddefnyddir gan fwyafrif o gyrchfannau yn y DU. Mae’n darparu Cyrchfan gyda data twristiaeth blynyddol ar feysydd megis niferoedd yr ymwelwyr, gwariant, arosiadau dros nos, nifer a gyflogir yn y sector twristiaeth ac effaith economaidd twristiaeth i Gyrchfan.
Mae’r broses STEAM yn fframwaith strwythuredig gyda’r capasiti i dderbyn ystod eang o ddata twristiaeth. Daw’r data o nifer o ffynonellau gan gynnwys busnesau twristiaeth lleol megis darparwyr llety ac atyniadau. Mae hefyd yn cipio digwyddiadau mawr sy’n denu ymwelwyr, a data cenedlaethol a rhanbarthol.
Pam bod data STEAM yn bwysig?
Mae casglu’r data diweddaraf yn bwysig iawn i Gonwy, gan ein bod yn ei ddefnyddio i ddenu a hysbysu buddsoddwyr manwerthu a thwristiaeth. Mae’r wybodaeth yn dangos pa mor hynawf yw ein sir, ac yn arwain at gyllid, buddsoddiad a busnes newydd i’r ardal, sy’n elwa ni oll.
Data STEAM Conwy
Gallwch chi lawrlwytho adroddiad llawn Conwy STEAM 2022 yma. Gellir gweld crynodeb o'r adroddiad yma.
Gallwch chi lawrlwytho adroddiad llawn Conwy STEAM 2019 yma. Gellir gweld crynodeb o'r adroddiad yma.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Rydym angen mwy o fusnesau twristiaeth Conwy i gymryd rhan!
Mae’r wybodaeth yr ydym ei angen gennych yn eithaf sylfaenol, ac yn canolbwyntio ar nifer yr ymwelwyr bob mis. Rydym yn chwilio am fusnesau atyniadau, darparwyr llety gwyliau, perchnogion safle/parc carafanau a gwersylla, i gymryd rhan. Rydym ni’n cydnabod y gall gymryd ychydig o amser i rai ohonoch chi ddarparu'r wybodaeth hon, felly nid oes terfyn amser llym, rydym yn ceisio cipio data twristiaeth 2022 rhwng Ionawr 2023 ac Awst 2023.
Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn yr arolwg, cysylltwch â Kim Nicholls: Kim.Nicholls1@conwy.gov.uk
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl