Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau i fusnesau a sefydliadau ar gadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr
Pwrpas y canllaw hwn yw darparu cyngor i sefydliadau a busnesau bach ar gasglu a chadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr â'u hadeiladau am gyfnod cyfyngedig.
Mae hyn er mwyn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru os bydd y broses olrhain cysylltiadau yn cael ei chychwyn oherwydd bod rhywun yn eich adeilad yn profi'n bositif am COVID-19 neu'n cael ei nodi fel cyswllt.
Mae'r canllaw wedi'i fwriadu ar gyfer y rhai sydd â phrofiad o gasglu a chadw data personol at ddibenion busnes, a’r rhai sydd heb brofiad o hynny.
DARLLEN MWY