Fel rhan o grant cymorth busnes Conwy rydym wedi cyflwyno grant cymorth Covid 19. Cronfa gyfyngedig yw hon i ddarparu grant dewisol sy’n cefnogi busnesau Conwy i ailagor yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth
Grant ar gyfer hyd at 50% o gost y prosiect cymwys, gydag isafswm grant o £100 i uchafswm o £ 1500
Pwy all wneud cais?
– Busnes newydd a oedd yn masnachu cyn y Covid 19
– Busnesau sydd â chyfeiriad masnachu yn sir Conwy
– Busnesau Sefydledig
– Mentrau cymdeithasol wedi’u lleoli yn sir Conwy
Pa eitemau sy’n gymwys?
– Arwyddion Covid 19, posteri tâp marcio
– Masgiau wyneb, glanweithydd, tariannau wyneb
– Sgrin, thermomedrau, peiriannau glanweithdra, rhwystrau
– Gazebos, gwresogyddion awyr agored, peiriannau cardiau credyd cludadwy
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a bydd ceisiadau am nwyddau traul ac eitemau cyfalaf i gynorthwyo busnesau i ailagor yn ddiogel ac yn gyfreithiol yn cael eu hystyried.
Am fanylion llawn, cysylltwch â’r tîm Cymorth Busnes yn business@conwy.gov.uk