Dyma rannu gyda chi ddeunyddiau diweddaraf yr ymgyrch Diogelu Cymru. Mae croeso ichi eu defnyddio ar eich sianeli – gwefan, newyddlen, cyfryngau cymdeithasol, ac ati. Mae posteri a thaflenni hefyd, i’w hargraffu a’u dosbarthu.
Mae’r asedau newydd hyn yn ategu’r neges ‘diogelu chi eich hun ac eraill’ ac mae yma ddiweddariad ar olchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb, yn ogystal â hunanynysu a chael prawf.
Ynghlwm i’r e-bost hwn mae pecyn sy’n rhoi canllawiau ar sut mae defnyddio’r asedau newydd. Mae’r cyfan ar gael i’w lawrlwytho o’n banc asedau Diogelu Cymru, yma
Mae fersiynau Hawdd eu Darllen ac Iaith Arwyddion Prydain hefyd ar gael
Mae’r daflen A5 ar gael mewn 32 o ieithoedd i’w rhannu ymhlith gwahanol gymunedau, ac mae ar gael yma
Os ydych yn chwilio am ddeunyddiau Profi Olrhain Diogelu, gan gynnwys posteri, graffeg ac asedau amlieithog, bydd Diogelu Cymru’n diweddaru’r cynnwys yn gyson trwy’r ddolen hon
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu anawsterau’n cael gafael ar yr asedau newydd.
Y Tîm Cyfathrebu Iechyd – Llywodraeth Cymru
HSSComms@llyw.cymru