Dyma grant i roi cymorth ariannol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol sy’n gwynebu heriau ariannol yn y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.
Mae grant o £2,500 ar gael fesul unigolyn, i roi cymorth uniongyrchol gyda llif arian parod i helpu drwy’r cyfnod a amharwyd.
Mae cymorth ar gael i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol llawrydd y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, sy’n gweithio yn y pedwar is-sector allweddol:
• Celfyddydau;
• Diwydiannau Creadigol;
• Digwyddiadau Celfyddydol a Threftadaeth;
• Diwylliant a Threftadaeth.
Gall unigolion wneud cais am y grant drwy ddefnyddio Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol ar wefan Busnes Cymru https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culture/cy
Ni fyddwch yn gymwys:
• Os ydych yn gweithiwr llawrydd yn y sector chwaraeon;
• Os ydych wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan y Grant Cychwyn a lansiwyd ym Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd i ymdopi â chanlyniadau’r coronafeirws (COVID-19)
Mae’r cyllid hwn yn benodol ar gyfer yr is-sectorau creadigol a diwylliannol a’r rheini y bu rhaid iddynt roi’r gorau i weithio a/neu sy’n cael trafferth ailddechrau oherwydd effaith cyfyngiadau COVID-19. Ni ddylai’r rheini sydd wedi llwyddo i barhau ar lefelau o weithgarwch sy’n agos at lefelau blaenorol (penseiri, dylunwyr graffig, dylunwyr gemau ac ati) gyda neu heb gymorth wneud cais.