I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Cymorth Busnes Covid-19 > Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru – Cymorth i Wei
Dyma grant i roi cymorth ariannol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol sy’n gwynebu heriau ariannol yn y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.
Mae grant o £2,500 ar gael fesul unigolyn, i roi cymorth uniongyrchol gyda llif arian parod i helpu drwy'r cyfnod a amharwyd.
Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail unigol, a’r Awdurdod Lleol fydd a’r disgresiwn llwyr i dalu’r grant – yn unol a’r meini prawf.
Mae cymorth ar gael i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol llawrydd y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, sy'n gweithio yn y pedwar is-sector allweddol:
· Celfyddydau;
· Diwydiannau Creadigol;
· Digwyddiadau Celfyddydol a Threftadaeth;
· Diwylliant a Threftadaeth.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r gwiriwr cymhwysedd
Byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael eich cyflogi'n rhan-amser a bod gennych fusnes creadigol proffesiynol llawrydd hefyd. Fodd bynnag, nod y grant hwn yw helpu gweithwyr llawrydd sydd yn yr angen mwyaf oherwydd eu bod wedi colli incwm o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Os ydych wedi cael cymorth blaenorol naill ai gan Gynllun Cadw Swyddi'r Llywodraeth a'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a'ch bod yn gwynebu heriau ariannol, rydych yn dal yn gymwys ar gyfer y gronfa hon.
Ni fyddwch yn gymwys:
· Os ydych yn gweithiwr llawrydd yn y sector chwaraeon;
· Os ydych wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan y Grant Cychwyn a lansiwyd ym Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd i ymdopi â chanlyniadau'r coronafeirws (COVID-19)
Mae'r cyllid hwn yn benodol ar gyfer yr is-sectorau creadigol a diwylliannol a'r rheini y bu rhaid iddynt roi'r gorau i weithio a/neu sy'n cael trafferth ailddechrau oherwydd effaith cyfyngiadau COVID-1. Ni ddylai'r rheini sydd wedi llwyddo i barhau ar lefelau o weithgarwch sy'n agos at lefelau blaenorol (penseiri, dylunwyr graffig, dylunwyr gemau ac ati) gyda neu heb gymorth wneud cais.
Bydd y Grant i Weithwyr Llawrydd Cam 2 yn agor i geisiadau dydd Llun 19 Hydref. Bydd yr amser mae pob cam ar agor a’r bwlch rhwng pob cam yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir. Mae’r grant yn cael ei weithredu yn y ffordd fesul cam hon i’n galluogi i asesu’r galw yn erbyn y cyllid sydd ar gael – yn ogystal â rhoi digon o amser i weithwyr llawrydd baratoi ceisiadau.
Gall unigolion wneud cais am y grant drwy ddefnyddio Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol
Os ydych yn gymwys ar gyfer y grant byddwch yn cael eich cyfeirio at wefan eich awdurdod lleol lle byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais ar-lein neu cewch ofyn am ffurflen gais gan eich awdurdod lleol. Dylech wneud cais drwy’r awdurdod lleol ‘rydych yn byw ynddo yn hytrach na’r un lle rydych yn gwneud y rhan fwyaf o’ch gwaith.
Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn llwyr i bennu hyd a thelerau’r gronfa.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl