Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud (ardrethi annomestig)yn darparu’r cymorth ariannol canlynol:
- Bydd busnesau yn y sector lletygarwch sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu a’r gadwyn gyflenwi sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng mwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
- Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 hefyd yn gymwys i gael taliad o £5,000 os bydd y cyfyngiadau’n effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu a’r gadwyn gyflenwi yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng mwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
- Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000 hefyd yn gymwys i gael taliad o £5,000 os bydd y cyfyngiadau’n effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden ar gadwyn gyflenwi yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng mwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Bydd proses ymgeisio fesul cam i’r grant Ardrethi Busnes Annomestig Cenedlaethol yn sgil Cyfyngiadau fel a ganlyn:
Bydd modd i fusnesau lletygarwch wneud cais o 16 Rhagfyr 2020
Gall pob busnes arall cymwys (yn ôl y ddogfen arweiniad) wneud cais o 4 Ionawr 2021
YMGEISIO YMA