Fe fydd rheolau lleol newydd mewn grym ar gyfer Sir Conwy o 6pm ddydd Iau 1 Hydref.
Yn dilyn cynnydd sydyn yn yr achosion o'r coronafeirws (COVID-19) yn ardal Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r cyfyngiadau newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer y bobl sy’n byw yn yr ardal i leihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd y cyhoedd.
Fe ddaw’r cyfyngiadau i rym am 6pm ar 1 Hydref 2020 ac fe fyddant yn cael eu hadolygu.
Dyma’r prif gyfyngiadau:
• Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i ardal Bwrdeistref Sirol Conwy, na gadael yr ardal, heb esgus rhesymol
• Ni fydd pobl yn cael ffurfio aelwyd estynedig mwyach, na bod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau'n "swigen”)
• Mae hyn yn golygu na chaniateir ichi gwrdd ag unrhyw un dan do nad yw'n rhan o'ch aelwyd (y bobl sy'n byw gyda chi) ar hyn o bryd, oni bai bod gennych reswm da dros wneud hynny, fel gofalu am berson sy'n agored i niwed
• Rhaid i bob eiddo trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
• Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo modd