Mae'r cynllun wedi'i ymestyn.
Os oeddech chi'n gymwys i gael y grant cyntaf ac os ydych yn gallu cadarnhau i Gyllid a Thollau EM (CThEM) fod coronafwirws wedi effeithio'n andwyol ar eich busnes ar neu ar ôl 14 Gorffennaf 2020, byddwch yn gallu gwneud cais am ail grant sef grant terfynol, o 17 Awst 2020 ymlaen.
Mae’r cynllun yn caniatáu i chi hawlio ail grant trethadwy, sef yr un olaf, sydd werth 70% o’ch elw masnachu misol cyfartalog, wedi’i dalu mewn un rhandaliad sy’n cwmpasu gwerth 3 mis o elw, ac sydd wedi’i gyfyngu i £6,570 at ei gilydd.
Yn debyg i’r grant cyntaf, bydd CThEM yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys.
Byddant yn pennu’ch cymhwystra ar gyfer yr ail grant yr un modd ag y gwnaethom ar gyfer y grant cyntaf.
Gallwch gyflwyno hawliad am yr ail grant os ydych yn gymwys, hyd yn oed os na wnaethoch gyflwyno hawliad am y grant cyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Hunangyflogaeth, ewch i wefan GOV.UK.