Ym mis Hydref, cynyddodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y trothwy ar gyfer trefniadau Amser i Dalu hunan-wasanaethu o £10,000 i £30,000 ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesu.
Ar ôl iddynt gwblhau eu ffurflen dreth 2019-20 a phan fyddant yn gwybod faint o dreth sy’n ddyledus, gall cwsmeriaid ddefnyddio'r cyfleuster hunan-wasanaethu i sefydlu debydau uniongyrchol misol a lledaenu cost eu bil treth.
Gall cwsmeriaid wneud cais am y cynllun talu trwy GOV.UK. Fodd bynnag, rhaid iddynt fodloni'r gofynion canlynol:
Mae’n rhaid iddynt fod heb:
• ffurflenni treth sy'n ddyledus
• dyledion treth eraill
• cynlluniau talu eraill CThEM wedi'u sefydlu
• mae angen i'r ddyled fod rhwng £32 a £30,000
• mae angen sefydlu'r cynllun talu heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad dyledus y ddyled
Gall cwsmeriaid y mae'n ofynnol iddynt wneud Taliadau ar Gyfrif, ac sy'n gwybod y bydd eu bil yn is na'r flwyddyn dreth flaenorol, leihau eu taliadau.
Ewch i GOV.UK i ddarganfod mwy am Daliadau ar Gyfrif a sut i'w lleihau.
Byddwch yn ymwybodol o wefannau copïo CThEM a sgamiau gwe-rwydo. Dylai cwsmeriaid deipio'r cyfeiriad ar-lein llawn www.gov.uk/hmrc bob amser i gael y ddolen gywir ar gyfer eu ffurflen dreth Hunanasesiad ar-lein yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim. Mae angen iddynt hefyd fod yn wyliadwrus os yw rhywun yn ffonio, e-bostio neu yn anfon neges destun gan honni eu bod o Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, gan ddweud y gallant hawlio cymorth ariannol, dweud fod ad-daliad treth yn ddyledus, neu fod treth yn ddyledus. Efallai ei fod yn sgam. Gwiriwch GOV.UK i gael gwybodaeth ar sut i adnabod cyswllt dilys gan CThEM