I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Cymorth Busnes Covid-19 > Diweddariadau Brexit Mewnforio ac allforio nwyddau
Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr ac mae wedi bod mewn cyfnod pontio a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Yn ystod y cyfnod pontio, mae mwyafrif rheolau a threfniadau masnachu cyfredol yr UE wedi aros yn eu lle heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y mwyafrif o feysydd.
Fodd bynnag, mae diwedd y cyfnod pontio’n agosáu’n gyflym a bydd hyn yn golygu newidiadau i’r rheolau cyfredol ar fasnachu ynghyd â’r hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE.
CLICIWCH YMA i gael yr holl wybodaeth ac arweiniad diweddaraf yng Nghymru.
Y Model Gweithredu Ffiniau yw esboniad Llywodraeth y DU o'r prosesau ffiniau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer masnach i'/o’r UE y flwyddyn nesaf, a bydd angen y rhan fwyaf ohonynt pa un a gytunir ar fargen fasnach ai peidio.
Os ydych yn masnachu gyda'r UE, mae’n bwysig eich bod yn sefydlu’r prosesau hyn rŵan er mwyn i chi allu parhau i wneud hynny.
Mae mwy o wybodaeth ar gael YMA
Mae angen EORI - Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd - ar unrhyw fusnes sy'n mewnforio neu'n allforio nwyddau i ac i’r DU o ac i unrhyw le yn y byd.
Cliciwch YMA i gael rhif EORI ac i weld y wybodaeth newydd
Mae'r broses o gael EORI fel arfer yn cymryd tua 3 i 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais ac ni chodir tâl amdano.
Fformat EORI yw GB ac yna 12 rhif - er enghraifft GB987654312000 - ac yn aml mae'n debyg i rif TAW presennol cwmni (os oes ganddyn nhw un).
Mae'r newid pwysig yn ymwneud â Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd nid oes angen i unrhyw fusnes yn y DU sy'n symud nwyddau neu wasanaethau i ac o Ogledd Iwerddon fod ag EORI.
O 1 Ionawr 2021 bydd busnesau’n gorfod bod â rhif EORI i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr (Lloegr, yr Alban a Chymru) a'r UE ac efallai y bydd angen EORI hefyd os ydynt yn symud nwyddau i neu o Ogledd Iwerddon.
Felly bydd fersiwn EORI ychwanegol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer busnesau ar y fformat IX a 12 rhif - er enghraiff IX987654312000.
Os oes gan fusnes rif EORI yn barod, ni fydd angen iddynt wneud cais am y rhif EORI ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd hwn yn cael ei anfon yn syth atynt gan Gyllid a Thollau EM ym mis Rhagfyr 2020.
Mae'r trothwy gwerth parsel hefyd yn newid o 1 Ionawr 2021 - i lawr i £135.00 (mae'n £270.00 ar hyn o bryd) a bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bach a micro sy'n defnyddio cwmnïau parseli fod yn barod a bod â rhif EORI (mae llawer nad oes ganddynt un ar hyn o bryd). Os nad oes rhif EORI ar gael i'w ychwanegu at y broses ofynnol, yna efallai na fydd busnes yn gallu anfon cynhyrchion, fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, i Ogledd Iwerddon a gwledydd yr UE.
Gyda llai na 50 diwrnod i fynd i ddiwedd y Cyfnod Pontio, rydym yn rhannu gyda chi rywfaint o’r wybodaeth allweddol am yr hyn y mae angen i chi ei wneud rŵan i'ch helpu chi i baratoi eich busnes ar gyfer Ionawr 2021.
Chi sy’n gyfrifol am wirio a gweithredu ar wybodaeth berthnasol ond rydym eisiau eich cefnogi chi trwy eich cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth ac arweiniad defnyddiol.
Beth allwch chi ei wneud rŵan i baratoi ar gyfer masnachu gyda'r UE o 1 Ionawr 2021?
Cael rhif EORI Prydain Fawr
Bydd angen rhif EORI arnoch i gwblhau datganiadau tollau. Gallwch gofrestru am ddim trwy fynd i www.gov.uk/eori
Penderfynwch sut yr ydych am wneud datganiadau tollau
Gall asiantau tollau, anfonwyr cludo nwyddau a gweithredwyr cyflym eich helpu gyda datganiadau a sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
Gweld a yw'r nwyddau yr ydych yn eu mewnforio yn gymwys am reolaethau fesul cam
Bydd y mwyafrif o fasnachwyr sydd â chofnod cydymffurfio da yn gallu gohirio datganiadau mewnforio ar y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma
Os ydych yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch chi gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cefnogi Masnachwyr (TSS)
Ydych chi'n cyflogi staff o'r tu allan i'r DU? Cliciwch yma i ddarganfod mwy am reolau a threfniadau newydd o 1 Ionawr 2021
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau a'r logos ar gyfer cynlluniau Arwyddion Daearyddol (GI) annibynnol newydd y DU, gan roi statws arbennig i gynhyrchion poblogaidd a thraddodiadol
Mae mwy o wybodaeth am fasnachu gyda'r UE yn y dyfodol ar gael yma
Eich cefnogi chi
Ewch i’r dudalen we bwrpasol ar Gov.UK sut i baratoi eich busnes bwyd a diod ar gyfer 1 Ionawr 2021’ lle cewch y wybodaeth ddiweddaraf i gyd mewn un lle.
Ewch i’r EU Exit hub am wybodaeth benodol i’r sector bwyd-amaeth. Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod ynghyd â 50 o gyrff masnach eraill yn yn ymwneud â'r wefan, sy'n darparu gwybodaeth am yr hyn a fydd yn newid o 1 Ionawr 2021.
Mae gweminarau parodrwydd masnachwyr DEFRA bellach ar gael i'w gwylio ar-lein:
Mae BEIS hefyd wedi cynhyrchu gweminarau ar gyfer y sectorau nwyddau defnyddwyr a manwerthu, gallwch eu gwylio yma
Ar yr adeg yma o straen cynyddol ar y gadwyn cyflenwi bwyd, mae Bwyd Arloesi Cymru wedi agor llinellau cymorth rhanbarthol
Ystyriwch ymuno â Grŵp Clwstwr Llywodraeth Cymru
Dysgwch fwy am labelu bwyd
Darllenwch fwy o gyngor gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gamau y gallwch eu cymryd rŵan r i baratoi eich busnes
Cadw eich gwybodaeth yn gyfredol
Tanysgrifiwch i wasanaeth diweddaru e-bost rhad ac am ddim Cyllid a Thollau EM www.gov.uk/hmrc/business-support a dewiswch ‘Sign up to help and support email from HMRC’.
Tanysgrifiwch i gylchlythyr Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl