I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Cymorth Busnes Covid-19 > Grantiau Datblygu Busnes Y Gronfa Cadernid Economa
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y cynllun uchod a fydd yn cael ei weinyddu gan Busnes Cymru.
Bwriad y gronfa hon yw cefnogi busnesau Cymru gyda phrosiectau datblygu er mwyn helpu i adfer o effeithiau pandemig Covid-19 a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Mae nhw’n disgwyl cefnogi prosiectau a fydd yn helpu i wella sut mae cwmnïau’n gweithredu ac yn adfer o’u hamgylchiadau presennol. Yn arbennig, mae nhw’n croesawu prosiectau datblygu a fydd yn helpu i gynnal a chreu swyddi i bobl ifanc (25 oed ac iau), pobl ag anableddau a phobl o gymunedau BAME.
Bydd y grantiau datblygu busnes ar agor i fusnesau o bob maint.
• Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 cyn belled â’u bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’u cyllid cyfatebol eu hunain. Ar gyfer micro fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarnu grant o hyd at 100%;
• Bydd busnesau bach a chanolig (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Bydd gofyn i fusnesau bach (hyd at 50 o weithwyr) fuddsoddi o leiaf 10% o’u cyllid cyfatebol eu hunain, a busnesau canolig (rhwng 50 a 249 o weithwyr) yn gorfod buddsoddi o leiaf 20% eu hunain. Ar gyfer micro fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarnu grant o hyd at 100%;
• Bydd busnesau mawr (sy’n cyflogi 250+ o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000 ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 50% o gyllid cyfatebol eu hunain.
Os yw’r prosiect yn creu swyddi newydd i bobl ifanc (dan 25) efallai y byddwch yn gymwys i gael dyfarniad uwch.
Gallwch wneud cais i’r gronfa grantiau o 26 Hydref 2020 am pedwar wythnos.
Defnyddiwch yr adnodd hwn i wirio a ydych chi’n gymwys i gael grant Datblygu Busnes cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl