Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19.
Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith.
Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.
Bydd y gronfa'n cael ei gweinyddu gan eich Awdurdod Lleol.
Sylwch - Bydd y ddolen i wneud cais am y naill grant neu'r llall ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o 28/10/2020.
Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân:
· Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symyd
· Grant Dewisol Cyfyngiadau Symyd
Bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin.
Gall hyn olygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ewch i dudalen y-gronfa-i-fusnesau-dan-gyfyngiadau-symud