Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi’r hunangyflogedig yn sgil effaith y coronafeirws (COVID-19) ac yn ymestyn ei Chynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.
Mae Ymestyn Grant y Cynllun yn darparu cymorth hanfodol i’r hunangyflogedig ar ffurf dau grant, gyda’r ddau ar gael am gyfnodau o dri mis yn cwmpasu Tachwedd 2020 i Ionawr 2021 a Chwefror 2021 i Ebrill 2021.
Bydd y gwasanaeth ar-lein ar gyfer y grant nesaf ar gael o 30 Tachwedd 2020.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn darparu manylion llawn am hawlio a cheisiadau mewn canllawiau ar GOV.UK maes o law.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.