I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Cyrchfan Conwy
Fis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) weledigaeth rheoli cyrchfan i Sir Conwy a sefydlu grŵp llywio rheoli cyrchfan. Ers hynny, mae’r grŵp wedi esblygu’n bartneriaeth gref, gan weithio gyda diwydiant twristiaeth Conwy, a’i gefnogi.
Yn ddiweddar, mae Partneriaeth Cyrchfan Conwy, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy 2023 - 2029 ar gyfer y sir.
Mae twristiaeth yn sector blaenoriaeth i Sir Conwy. Yn ôl ffigyrau STEAM 2022 mae twristiaeth yn cael effaith economaidd hollgynhwysfawr gwerth £1.1 biliwn ar economi’r sir. Mae hyn yn rhagori ar lefelau 2019 pan oedd yr effaith economaidd yn £996.16m. Mae ffigyrau ymwelwyr hefyd wedi codi’n ôl i lefelau 2019.
Er mwyn sicrhau adferiad a thwf parhaus y Sir, mae Partneriaeth Cyrchfan Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi amlinellu 11 amcan yn y Cynllun diwygiedig i gefnogi’r diwydiant dros y 6 blynedd nesaf.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl