I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Dweud eich dweud am economi gyda’r nos Sir Conwy
Mae Savills UK yn cynnal arolwg ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymwneud â darparu economi gyda’r nos ddiogel a chynaliadwy yn y sir.
Pwrpas yr Ymchwil
Pwrpas yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth glir o’r economi gyda’r nos bresennol ac yn dilyn hynny, nodi camau y gellir eu cymryd i wella economi gyda’r nos Sir Conwy.
Defnyddir yr economi gyda’r nos i ddisgrifio ystod eang o weithgareddau a gynhelir ar ôl 6pm a chyn 6am, mae hyn yn cynnwys pethau fel manwerthu, cludiant, bwyta allan, gweithgareddau hamdden neu fynychu digwyddiad neu gyngerdd. Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi’r sectorau hyn megis sicrwydd a diogelwch.
Ffocws yr ymchwil hwn yw nodi ymyraethau i ddatblygu’r sector twristiaeth a chynnal buddion cytbwys i bobl leol ac ymwelwyr.
Mae’r economi gyda’r nos yn chwarae rôl bwysig yng Nghonwy, Gogledd Cymru a Chymru, gan wneud cyfraniadau sylweddol i economi a bywiogrwydd canolfannau trefol a gwledig.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydnabod pwysigrwydd yr economi gyda’r nos fel sbardun arwyddocaol ar gyfer aros dros nos a dull allweddol o gynhyrchu swyddi twristiaeth o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn. Mae data STEAM 2022 ar gyfer Conwy’n dangos fod ymwelwyr sy’n aros dros nos yn cynrychioli 66% o’r effaith economaidd ond yn cyfrif am 27% o ymwelwyr.
Bydd Astudiaeth Ddichonoldeb yn cael ei chynnal yn seiliedig ar ganlyniadau’r ymchwil gan nodi’r ymyrraeth a fydd yn cefnogi datblygiad a thwf yr Economi Gyda’r Nos yn Sir Conwy ac yn amlinellu llwybr Sir Conwy i ddod yn gyrchfan Baner Borffor. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys:
Mapio’r Economi Gyda’r Nos
Dadansoddi cyfleoedd a heriau
Astudiaethau achos y DU ac Ewropeaidd yn amlygu arfer orau o ran rheoli a datblygu Economi Gyda’r Nos
Cynllun gweithredu gyda chyfres o ymyraethau ac argymhellion a flaenoriaethir
Mae’r arolwg ar gael tan 21 Gorffennaf 2024 a gellir cael mynediad ato ar-lein.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl