I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Dweud eich dweud am economi gyda’r nos Sir Conwy > Economi Nos - FAQ
Cwestiynau Cyffredin:
Pa fathau eraill o waith sydd wedi cael eu cynnwys yn y prosiect ehangach?
Mae ein mathau eraill o waith yn cynnwys:
Cynnal Ymgyrch Farchnata Twristiaeth Gaeaf ar gyfer Sir Conwy.
Datblygu Map Llwybr Treftadaeth Tref i gyd-fynd â’r llwybr yn Llandudno.
Gwaith atgyweirio a gwella cerfluniau Llwybr Alys.
Darparu cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer Llysgenhadon Twristiaeth Conwy.
Archwilio, cynllun cynaliadwyedd a chynllun gweithredu ar gyfer gwasanaeth gwybodaeth i dwristiaid Conwy.
Beth yw amserlenni’r prosiect?
Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2024. Bydd amserlen benodol ar gyfer bob darn o waith a fydd yn ymofyn prosesau caffael gwahanol. Bwriedir osgoi cwblhau’r gwaith ar gerfluniau llwybr Alys yn ystod misoedd prysur yr haf er mwyn sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl.
Faint fydd hyn yn ei gostio a phwy sy’n talu am hyn?
Cyfanswm cost y prosiect yw £294,000. Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â twristiaeth@conwy.gov.uk. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ateb unrhyw ymholiadau, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymateb i bawb yn unigol. Byddwn yn anelu at ddiweddaru’r dudalen hon gydag unrhyw gwestiynau cyffredin felly sicrhewch eich bod yn gwirio’r dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl