Mae Croeso Cymru wedi bod yn cydweithio â Visit England, Visit Scotland a Tourism Northern Ireland i ddatblygu marc ansawdd safonol diwydiant cyffredin.
Y pwrpas yw rhoi hyder i fusnesau twristiaeth, atyniadau a chyrchfannau, ynghyd â rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod gan fusnesau brosesau clir ar waith wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu codi.
Fel rhan o’r broses bydd busnesau yn cwblhau asesiad ar-lein am ddim i wirio eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw at ganllawiau swyddogol y Llywodraeth a’u bod wedi cwblhau asesiad risg.
Bydd busnesau sy'n cwblhau'r broses yn llwyddiannus yn cael marc ansawdd a thystysgrif sy'n cydnabod eu bod wedi mynd trwy'r broses. Ategir hyn gan gyfathrebu corfforaethol a defnyddwyr cydgysylltiedig. Bydd manylion pellach yn dilyn yn fuan