Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o offer critigol gan gynnwys cynhyrchion glanhau a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE) i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod argyfwng COVID 19. Os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu, mae gwybodaeth am sut i ymgysylltu ar gael yma.