I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Gwybodaeth fusnes > Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500m
12/06/2020
Mae Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 yn grant sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau a sefydliadau cymwys sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i COVID-19.
Pwrpas y Gronfa yw helpu busnesau a sefydliadau drwy gynnig cymorth llif arian ar unwaith i'w helpu drwy ganlyniadau economaidd yr achosion o COVID-19.
Mae'r gronfa'n ceisio ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ailagor a bydd busnesau'n gallu gwneud ceisiadau am gymorth o gam hwn y gronfa erbyn diwedd y mis.
CLICIWCH YMA i ddarganfod a yw'ch busnes chi’n gymwys i gael cymorth o gam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd.
Erbyn hyn, gellir gwneud ceisiadau am gymorth o ail gam Cronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, gyhoeddi gwybodaeth fanwl ynghylch y gyfran hon o’r gronfa, cyfran sy’n werth £200m. Roedd yr wybodaeth hon yn cynnwys meini prawf cymhwysedd ar gyfer busnesau ac elusennau er mwyn iddynt allu paratoi i wneud cais. Mwy o fanylion ar gael yma.
Eglurhad pwysig: Dylai busnesau sy’n ystyried gwneud cais am grantiau y Gronfa Cadernid Economaidd nodi mai dim ond gwerth unrhyw grantiau sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Busnes a gafwyd fydd yn cael eu didynnu. Caiff busnesau twristiaeth eu hannog i wneud cais ar gyfer y cymorth hwn..
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500m heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.
Nod y Gronfa Cadernid Economaidd yw cau bylchau’r cynlluniau cefnogi sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.
Bydd y gronfa newydd gwerth £500m yng Nghymru yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rhai nad ydynt wedi elwa eisoes o’r grantiau coronafeirws sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae’r cyflymder y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar ein heconomi ni’n rhyfeddol. Nawr, yn fwy nag erioed, rhaid i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r economi a busnes.
“Mae cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU wedi darparu’r warchodaeth y mae ei gwir angen i lawer o weithwyr a’u teuluoedd yng Nghymru. Dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r dylanwad macro-economaidd ac ariannol i leihau’r difrod enfawr y bydd y cau economaidd hwn yn ei wneud i economi’r DU.
“Ond hyd yn oed gyda’r ymyriadau hyn, mae elfennau o’r economi, busnesau ac elusennau yng Nghymru’n wynebu ansolfedd oherwydd na all costau sefydlog a gweithredol – rhent, costau cyflog gweddillol, ffioedd prydlesu ar gyfer offer hanfodol a chynnal gweithredoedd – gael eu talu yn ystod yr argyfwng hwn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth Cymru i lenwi’r bylchau a chefnogi’r economi a busnesau yn ystod y cyfnod eithriadol anodd yma.
“Mae’r pecyn yma o gefnogaeth yn rhoi sicrwydd pellach i gwmnïau, elusennau a mentrau cymdeithasol y byddwn ni’n gwneud hynny – eu helpu i ddelio gydag effaith economaidd y pandemig.”
Mae’r gronfa gwerth £500m yn cynnwys dwy brif elfen:
14/04/2020
Cyhoeddwyd rhagor o fanylion ynglŷn â Chronfa Cadernid Economaidd newydd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn.
Ar 10 Ebrill, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Ken, ragor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais.
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Bydd y cam hwn yn targedu microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd neu gymdeithasol allweddol i Gymru, a bydd yn rhyddhau cyllid gwerth £200 miliwn.
Pan gyflwynwyd y cam cyntaf, roedd cynllun benthyciadau Banc Datblygu Cymru, gwerth £100 miliwn, wedi’i danysgrifio’n llwyr ymhen wythnos. Mae’r ceisiadau i gyd wrthi’n cael eu prosesu.
I fod yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwn, rhaid i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol fodloni cyfres o feini prawf gan gynnwys y canlynol:
Mae grant gwerth hyd at £10,000 ar gael i gefnogi microfusnesau sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng COVID-19.
Dim ond busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol sy’n gallu hawlio’r grant hwn:
Mae’r grant ar gael i ficrofusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Grant Ardrethi Busnes neu’r grant cymorth i’r hunan-gyflogedig.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer microfusnesau ar agor i geisiadau o 17 Ebrill 2020 am 12 mis
Bydd cyllid ar gael hefyd i gefnogi busnesau mawr sy’n cyflogi dros 249 o weithwyr. Ystyrir pob cais yn unigol, fesul achos, er mwyn ystyried y mannau mwyaf effeithiol i ddefnyddio cyllid i gyd-fynd â ffynonellau cymorth eraill.
Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gael yn: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy
Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill trwy wefan Busnes Cymru.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl