I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Gwybodaeth fusnes > Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws
Diweddariad: 13/05/2020
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi fel a ganlyn:
• Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref
• Bydd gweithwyr ar ffyrlo ledled y DU yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflogau presennol, hyd at £2,500
• Bydd hyblygrwydd newydd yn cael ei gyflwyno o fis Awst i gael gweithwyr yn ôl i’r gwaith
Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd mis Gorffennaf a bydd y newidiadau i alluogi mwy o hyblygrwydd yn dod i rym o ddechrau fis Awst.
Bydd manylion a gwybodaeth fwy penodol am sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar gael cyn diwedd y mis.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
O dan y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, bydd pob cyflogwr yn y DU yn gallu cael gafael ar gymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr i'r gweithwyr hynny a fyddai fel arall wedi'u diswyddo yn ystod yr argyfwng hwn, mae pob busnes yn y DU yn gymwys.
I gael mynediad i'r cynllun bydd angen i fusnesau:
Bydd HMRC yn ad-dalu 80% o gostau cyflogau gweithwyr sydd wedi cael caniatâd i fod yn absennol o’r gwaith, hyd at gap o £2,500 y mis. Mae CThEM yn gweithio ar frys i sefydlu system ar gyfer ad-dalu. Nid yw'r systemau presennol wedi cael eu sefydlu i hwyluso taliadau i gyflogwyr.
Gweler hefyd y ddolen atodedig i wefan Busnes Cymru sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a chyngor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys manylion pellach am gynlluniau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor ar 20 Mawrth 2020.
https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-llywodraeth-i-fusnesau
Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau rhagor o wybodaeth am y cynllun uchod
O dan y cynllun bydd pob cyflogwr yn y DU sydd â chynllun TWE a grëwyd ac a gychwynnwyd ar 28 Chwefror 2020 neu cyn hynny, yn gallu cael cymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr ar gyfer y rhai a fyddai wedi'u diswyddo fel arall yn ystod yr argyfwng hwn.
Am ragor o fanylion, gweler y linc isod
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl