Mae gan bobl Cymru nifer o gwestiynau am coronafeirws a’u hawliau cyflogaeth, budd-daliadau, cymorth busnes, teithio, bwyd, manwerthu, canslo trefniadau, addysg a llawer mwy.
Mae Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn cael llawer iawn o’r ymholiadau hyn.
Bydd Ymchwil y Senedd yn ateb cwestiynau’r Aelodau a’u staff trwy’r broses ymholiadau arferol, ond rydym hefyd wedi casglu ynghyd rhai lincs defnyddiol i wybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru.
Bydd Ymchwil y Senedd yn diweddaru’r erthygl hon bob diwrnod yn ystod wythnos, fel arfer erbyn 2yp. Hefyd, byddwn yn parhau i gyhoeddi erthyglau sy’n gysylltiedig â busnes y Cynulliad yn y cyfarfod llawn.