Agorodd grant newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau pysgota ar gyfer ceisiadau ddydd Iau 23 Ebrill.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod busnesau pysgota wedi dioddef ergyd arbennig o fawr gan pandemig Covid 19. Mae’r cymorth newydd hwn wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel grant i dargedu busnesau pysgota sy’n berchen ar longau, i helpu talu costau yn ystod yr adeg anodd hon.
Bydd y grant newydd yn:
· Help i dalu’r costau penodol sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar long pysgota a bydd yn seiliedig ar faint y llong. Ar gyfer llongau yn llai na 40m yn unig.
· Cyfrifwyd y grant ar sail maint llong, gyda mwyafswm o £10,000
· Bydd pob busnes pysgota gweithredol sydd â llongau trwyddedig yng Nghymru ac sy’n cofnodi gwerthiannau o £10,000 neu fwy yn 2019 yn gallu manteisio ar y grant, a bydd budd-daliad sengl yn cael ei ddarparu i bob pysgotwr cymwys.
DARLLEN MWY