I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Gwybodaeth fusnes > Grantiau Covid-19 ar gyfer busnesau
**Diweddaru 16/06/2020**
Nodyn Atgoffa Olaf
Mae cynllun grant ardrethi annomestig Covid-19 yn cau i geisiadau newydd am 5pm ar 30 Mehefin 2020.
Ffurflen ar-lein ar gyfer busnesau Conwy sydd yn gymwys nawr ar gael yma Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys isod:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau grant i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy'r pandemig Coronafeirws. Mae’r grantiau hyn ar gael i fusnesau sydd wedi’u cofrestru i dalu ardrethi busnes ar eu hadeiladau ar 20 Mawrth 2020 neu cyn hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyflwyno'r grantiau i fusnesau cymwys.
Grant 1 : Mae grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu adeiladau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Mae hyn yn golygu busnesau sy'n meddiannu adeiladau fel siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth fyw, gwestai, adeiladau lletya a llety hunanarlwyo.
Grant 2: Grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Cofiwch fod y cyfyngiad ar adeiladau lluosog sy’n berthnasol i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn gymwys i’r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.
SUT I WNEUD CAIS: Gwiriwch eich cymhwyster uchod, a llenwch y ffurflen ar-lein drwy'r ddolen i wefan Cyngor Conwy isod sydd ar gael yn awr.
Os oes gennych fwy nag un busnes sy'n gymwys i gael grant 1 neu 2 neu'r ddau ohonynt, llenwch ffurflen ar gyfer POB safle.
Noder: Ar ôl i chi gwblhau a chyflwyno'r ffurflen ar-lein, byddem yn gwerthfawrogi eich amynedd i beidio â dilyn i fynu dros y ffôn. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr heriau mawr y mae busnesau yn eu hwynebu, a bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i gael eich taliadau i chi cyn gynted â phosibl.
Gweler hefyd y ddolen atodedig i wefan Busnes Cymru sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a’r cyngor cyfredol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl