Canolfan Cydweithredol Cymru wedi lansio Llinell Gymorth Covid-19 ar gyfer y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a'i dîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i ddarparu help gydag ymholiadau am lif arian, AD, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu ac ystod o feysydd eraill a allai fod angen eu hail-feddwl yng ngoleuni'r Coronavirus.
Gallant ddarparu cyngor dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda, gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 0300 111 5050 neu e-bostio sbwenquiries@wales.coop os oes angen cefnogaeth arnoch.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymdeithasol Cymru.