I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Gwybodaeth fusnes > Neges gan y Cyng Goronwy Edwards
Annwyl Berchennog Busnes,
‘Roeddwn i eisiau ysgrifennu atoch chi, i fynegi fy nhristwch twymgalon yn y sefyllfa rydych chi i gyd ynddi heb unrhyw fai arnoch chi. Mae pandemig Coronafeirws yn gafael yn y byd i gyd, gan ddod ag economïau rhyngwladol i safiad stond.
Felly ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ‘rwyf am nodi ein cefnogaeth i chi a’ch busnes. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu trwy’r hyn sydd, yn ddi-os, yn gyfnod anodd, yn enwedig gan ddod mor fuan ar ôl y llifogydd a gafodd effaith ar lawer o fusnesau yn ein sir.
Dros yr wythnosau diwethaf, wrth i wir raddfa’r pandemig Coronafeirws ddod yn gliriach, mae swyddogion a chynghorwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd yn cael eu cynnal cyn belled ag y bo modd. Yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth y DU a Chymru ar y cynllunio i helpu i reoli’r achosion o Coronafeirws.
Mae ein cynllunio yn cael ei arwain gan y cyngor gan Lywodraeth y DU a Chymru, sy’n cael ei ddiweddaru’n ddyddiol, a chan y darlun sy’n dod i’r amlwg o hunan wahaniaethu yn ein cymuned ein hunain. Ar hyn o bryd mae pwyslais cryf ar Bellhau Cymdeithasol er mwyn arafu lledaeniad y feirws. Gwn eich bod i gyd yn chwarae rhan bwysig yn hynny, naill ai trwy gau eich busnesau, neu drwy weithredu systemau diogel i’ch staff a’r cyhoedd.
‘Rwy’n ymwybodol o’r caledi ariannol y byddwch yn ei ddioddef, ac rydym ni yn y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a gyhoeddodd becyn cymorth o £ 1.4bn ar gyfer pob busnes a restrir ar y gofrestr ardrethi busnes, gan gwmpasu Rhyddhad Cyfradd Busnes a Grantiau Busnes.
Mae dwy gydran wahanol i’r Grant Busnes.
Grant 1: Ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru, cynigir grant o £ 25,000 i fusnesau yn y sectorau hyn sydd â gwerth ardrethol rhwng £ 12,001 a £ 51,000.
Grant 2: Ar gyfer pob sector arall mae pecyn Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu grant o £ 10,000 i bob busnes sy’n gymwys i gael Rhyddhad Cyfraddau Busnesau Bach sydd â gwerth ardrethol o £ 12,000 neu lai.
‘Rwy’n falch o ddweud y bydd y ffurflenni sy’n ofynnol i gael gafael ar y cyllid hwn ar gael o ddydd Llun 30ain o Fawrth ar wefan Cyngor Conwy
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer yr un o’r ddau becyn cyllido a amlinellir uchod yna mae help ar y ffordd yn dilyn cyhoeddiad LLywodraeth Y DU ddydd Gwener 27ain o Fawrth am becyn cymorth a fydd ar gael i fusnesau hunan-gyflogedig, gweler y ddolen isod am wybodaeth pellach:
https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-ar-gyfer-yr-hunangyflogedig
Os oes angen cefnogaeth arnoch, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich busnes, cysylltwch â thîm Cymorth Busnes Cyngor Conwy ar 01492 574574 neu e-bostiwch busnes@conwy.gov.uk.
‘Rwy’n dymuno’r gorau i chi yn ystod yr amseroedd anodd hyn.
Cofion
Y Cynghorydd Goronwy Edwards
Y Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet Economi a Lle
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl