Mae Busnes@LlandrilloMenai wedi dyfeisio pecyn sgiliau yn benodol ar gyfer busnesau Twristiaeth wrth iddynt ailagor. Mae'n rhan o'u cynnig "dysgu o bell" cyffredinol.
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn awyddus iawn i chwarae eu rhan wrth gefnogi adferiad busnes trwy ddatblygu sgiliau. Gyda chyngor gan ystod o weithredwyr twristiaeth, trwy fynd i’r afael â themâu Strategaeth, Diogelwch a Gwasanaeth, maent yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth wrth adeiladu hyder busnes a chwsmeriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y misoedd nesaf.
Cadwyd costau cyn lleied â phosibl ar gyfer y pecyn a gynigir.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gefnogi a rhannu gyda chydweithwyr a phartïon â diddordeb yn eich rhwydweithiau.
Cliciwch YMA i gael mwy o wybodaeth