Bydd rheolau newydd i amddiffyn gweithwyr yn ystod yr achosion o coronafirws yn dod i rym ddydd Mawrth 7fed Ebrill, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau.
Bydd y rheoliadau'n golygu y bydd y rheol pellter cymdeithasol 2m yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, lle mae gwaith ac atgyweiriadau'n cael eu gwneud, a lleoedd awyr agored. Mae'r rheolau newydd yn berthnasol i'r gweithleoedd hynny nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys yn y rheolau aros gartref gwreiddiol a gyflwynwyd bron i bythefnos yn ôl
Bydd yn rhaid i bob busnes gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl ar eu safle pryd bynnag y bydd gwaith yn cael ei wneud. Cyhoeddir canllawiau i egluro'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl gan gyflogwyr a busnesau.
DARLLEN MWY