Gwelir manylion cryno o'r cyhoeddiad diweddaraf am gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach i'w helpu yn ystod yr achosion o coronafeirws
Prif bwyntiau cynhadledd newyddion Canghellor y Trysorlys – 20/03/20:
• Bydd y Llywodraeth yn camu i mewn i helpu i dalu cyflogau pobl trwy gynllun cadw swyddi coronafeirws. Gall busnesau wneud cais am grant o hyd at £2,500 y mis i dalu 80% o gyflog y rhai sy'n cael eu cadw ond nad ydynt yn gweithio
• Mae TAW ar bob busnes yn cael ei gohirio tan ddiwedd Mehefin a bydd y cynllun benthyciadau busnes yn ddi-log am 12 mis bellach
• Y bydd lwfans credyd cynhwysol yn cynyddu £1,000 y flwyddyn ac y caiff yr hunanasesiadau treth nesaf eu gohirio tan ddechrau'r flwyddyn nesaf
• Bydd y hunangyflogedig yn cael credyd cynhwysol llawn ar gyfradd sy'n cyfateb i dâl salwch statudol, a £1 biliwn arall i dalu am 30% o gostau rhentu tai
• Mae Mr Sunak yn addo mesurau pellach yr wythnos nesaf i sicrhau y bydd busnesau mwy a chanolig eu maint yn gallu cael y credyd sydd ei angen arnynt
Gweler hefyd y ddolen atodedig i wefan Busnes Cymru sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a’r cyngor cyfredol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-llywodraeth-i-fusnesau