Cwmnïau i dderbyn cyfnod estyn o 3 mis i ffeilio cyfrifon yn ystod COVID-19
Rhoddir 3 mis ychwanegol i fusnesau i ffeilio cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau i helpu cwmnïau i osgoi cael eu cosbi wrth iddynt ddelio ag effaith COVID-19.
O heddiw ymlaen (25 Mawrth 2020), bydd busnesau yn gallu gwneud cais am estyniad o 3 mis ar gyfer ffeilio eu cyfrifon.
Bydd y fenter ar y cyd hon rhwng y llywodraeth a Thŷ'r Cwmnïau yn golygu y gall fusnesau flaenoriaethu rheoli effaith Coronafirws.
Fel rhan o'r mesurau y cytunwyd arnynt, er y bydd yn rhaid i gwmnïau wneud cais pob tro am i'r estyniad 3 mis gael ei ganiatáu, bydd y rhai sy'n nodi materion yn ymwneud â COVID-19 yn cael estyniad yn awtomatig ac ar unwaith. Gellir gwneud ceisiadau trwy system ar-lein trac cyflym a fydd yn cymryd dim ond 15 munud i'w gwblhau.
DARLLEN MWY