Nifer yr eitemau: 1545
, wrthi'n dangos 1101 i 1120.
Conwy
Yn rhan o gadwyn Edinburgh Woollen Mill, mae’r siop hon yn gwerthu ystod o weuwaith i ddynion a merched gan gynnwys siwmperi, sgarffiau, sannau a theis.
Llandudno
Mae Gwesty 4 seren Adcote House gyda gwely a brecwast yn cynnig llety o ansawdd yn gyfan gwbl i oedolion a dewis o ystafelloedd gwely cyfforddus a steilus.
Betws-y-Coed
Mae bythynnod gwyliau hunanarlwyo Benar ar fryn hardd a thawel, o fewn pellter cerdded o bentref Penmachno a dim ond tair milltir o Fetws-y-Coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Cymru.
Conwy
Siop fwtîg sy’n gwerthu eitemau cartref, ‘ffordd o fyw’ a phlanhigion yw Violet & Co.
Colwyn Bay
Sefydlwyd Clwb Jet-sgi Colwyn yn 1996 i annog pobl i ddefnyddio badau dŵr yn ddiogel. Mae’r Clwb wedi’i gydnabod gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol fel Sefydliad Addysgu Cyrsiau Badau Dŵr Personol.
Llandudno
Delicatessen yn cynnig caws a chigoedd hallt, cynnyrch crefft, caws fegan a chynnyrch fegan.
Llandudno
Mae Caffi Dewi yn lle croesawgar a chyfeillgar i fwynhau bwyd cartref blasus. Rydym ni ddau funud ar droed o draeth Penmorfa. Mae’r holl elw yn mynd at ofalu am gleifion Hosbis Dewi Sant.
Llandudno
Bwyty teuluol wedi’i addurno’n gyfoes gyda chanhwyllau ar y bwrdd, gan weini prydau Prydeinig ac Ewropeaidd.
Llandudno Junction
Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw mewn ardal hyfryd o Ogledd Cymru.
Conwy
Wedi’i sefydlu ers nifer o flynyddoedd, mae Archway yn fwyty a chyfleuster bwyd i fynd pysgod a sglodion poblogaidd iawn sydd wedi’i leoli yn nhref gaerog ganoloesol Conwy.
Conwy
Yn gwerthu cwrw Cymreig, seidrau, wisgi, gwin ffrwythau a gwirodydd.
Conwy
O fewn muriau tref gaerog ganoloesol Conwy y mae The Jackdaw, bwyty gan y Cogydd Nick Rudge.
Llanrwst
Nwyddau cartref bendigedig ac unigryw a siop anrhegion yng nghanol Gogledd Cymru yn Llanrwst, yn gwerthu nwyddau cartref bendigedig o Gymru ac anrhegion o amgylch y DU.
Conwy
Gwerthwr dillad gweu a dillad merched gan Jayley, Tigi a Viz-a-Viz yn ogystal â dewis mawr o ategolion.
Colwyn Bay
Mae gennym bedwar tŷ gwyliau ym mhentref Glan Conwy. Mae pob tŷ yn cysgu dau berson.
Rhos-on-Sea
Ym mwyty Forte’s, rydyn ni’n falch o gynnig dau beth: profiad bwyta hamddenol a chyfeillgar a bwydlen eang sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Conwy
Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag at Ddyffryn Conwy, neu allan i’r foryd am olygfeydd ysblennydd o Ynys Môn, Ynys Seiriol, arfordir y gogledd a Môr Iwerddon.
Penmaenmawr
Bwthyn 2 ystafell wely mewn lleoliad godidog yw Warrandyte, mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd ac yn gallu cysgu hyd at 5 o bobl.
Llandudno
Bwthyn gwyliau celfydd gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda dwy ystafell wely, ym Mhenmorfa, sy’n cysgu 4 oedolyn. Gardd fach gaeedig â phatio, Wi-Fi ar gael, dillad gwely a gwasanaethau wedi eu darparu, a man parcio penodedig oddi ar y ffordd.