Nifer yr eitemau: 1086
, wrthi'n dangos 661 i 680.
Abergele
Ni yw’r drydedd genhedlaeth o’n teulu ni i redeg y parc cyfeillgar, sydd wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Cymru ger Abergele. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg ein drws ac mae’r traeth yn agos iawn hefyd.
Conwy
Bwtîg merched sy’n gwerthu dillad, ategolion ac anrhegion.
Llanfairfechan
Safai Rhiwiau 160 o fetrau i fyny mewn dyffryn tawel rhwng Llanfairfechan ac Abergwyngregyn, llety traddodiadol o garreg mewn lleoliad delfrydol gyda golygfeydd godidog dros y Fenai ac Ynys Môn.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Penmaenmawr
Cyfleusterau hwylio ardderchog gyda 18 o gychod y clwb ar gael i roi cynnig ar hwylio. Yn hwylio’n rheolaidd ddydd Sadwrn a dydd Sul o fis Ebrill.
Llandudno
Delicatessen yn cynnig caws a chigoedd hallt, cynnyrch crefft, caws fegan a chynnyrch fegan.
Dolwyddelan
Lleolir Fron Goch ar y Ffordd Rufeinig gyda theithiau cerdded gwych o'r ardd i Lyn Elsi, y Rhaeadr Ewynnol a phentref hardd Betws-y-Coed gyda'i siopau niferus a llefydd gwych i fwyta.
Conwy
Mae Dylan’s Conwy’n fwyty cyfeillgar sydd ond tafliad carreg o’r cei godidog yng Nghonwy.
Llandudno
Teithiau gwylio adar dan arweiniad drwy gydol y flwyddyn. Teithiau personol i un/dau o bobl sy'n archebu gyda'i gilydd, a grwpiau bach.
Rowen
Ym mhentref prydferth Rowen ynghanol Dyffryn Conwy ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Man tawel ar lan yr afon nid nepell o dafarn draddodiadol fywiog.
Betws-y-Coed
Mae Sŵn-y-Dŵr yn fwthyn gwyliau traddodiadol gyda theimlad modern a chyfoes sydd wedi’i leoli yng nghanol Betws-y-Coed, Parc Cenedlaethol Eryri ac yn cysgu hyd at 11 o bobl.
Llandudno
Mae’r dafarn hanesyddol hon yn cynnwys 15 ystafell wely ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf cyfarwydd ar y ffordd i mewn i dref Llandudno.
Colwyn Bay
Pethau hyfryd i harddu’ch cartref, wedi’u dewis gyda chariad.
Conwy
Agorodd bwyty eiconig Alfredo’s ei drysau yn 1960 fel y bwyty Eidalaidd cyntaf yng ngogledd Cymru, ac mae gwaddol Alfredo’s yn un rydym ni’n ei gymryd o ddifri.
Rhos-on-Sea
Chwilio am rywbeth arbennig? Dewch draw i Ellekat i gael golwg ar ein dewis gwych o ddillad ac ategolion i ferched.
Llandudno
Siop fach llawn ffyn roc a melysion eraill i gyd am brisiau fforddiadwy. Beth arall allech chi ofyn amdano pan ydych wrth lan y môr?
Llandudno
Mae Gwesty Four Saints Brig-y-Don wedi’i leoli yng nghanol promenâd Llandudno. Mae golygfa odidog i’w gweld o’r ystafelloedd sy’n wynebu’r môr.
Llandudno
Yn agos at Drwyn y Fuwch, mae’n ddelfrydol er mwyn ymweld â’r theatr neu er mwyn crwydro’r ardal.
Betws-y-Coed
Mae Coedfa Bach yn cysgu 4. Hen chwarter y gweision i’r tŷ Fictoraidd cysylltiedig, Coedfa House sy'n cysgu 8 o bobl.
Betws-y-Coed
Tŷ mawr urddasol yw Coedfa (lle i 8) sy’n edrych dros Ddyffryn Lledr ac i lawr am Bont Waterloo - lle delfrydol i dreulio gwyliau hunanarlwyo hamddenol yn harddwch Gogledd Cymru.