Yn gryno. Pentref bychan mynyddig gydag enw mawr.
Mae pob cerddwr neu fynyddwr werth ei halen wedi clywed am Gapel Curig. Y mynyddoedd yw’r rheswm am ei fodolaeth. Saif y pentref ar fforch bwysig yn y ffordd. Ewch i’r gogledd-orllewin ar hyd yr A5 i Fwlch Nant Ffrancon a byddwch yn cyrraedd yn anialdiroedd rhewlifol y Glyderau a’r Carneddau, lle mae copa trionglog Tryfan – mynydd y dylid ei gymryd o ddifrif – yn bwrw cysgod dros ddyfroedd Llyn Ogwen. Ewch i gyfeiriad y de-ddwyrain a byddwch wrth droed yr Wyddfa a Bwlch Llanberis ymhen dim, ynghanol toreth o gerrig mawrion. Dyma lle y bu dringwyr enwog megis Joe Brown a Don Whillans yn dysgu eu crefft, a lle bu’r tîm cyntaf i goncro Everest yn ymarfer (gyda llaw, agorodd Joe ei siop nwyddau awyr agored yng Nghapel Curig ar ddiwedd y 1960au, ac mae’r busnes yn dal i ffynnu).
Heb os, dyma dirlun lle mae’r elfennau yn hollbresennol. Mae dŵr yn ogystal â cherrig yn gwneud ymddangosiad dramatig, gan fod y pentref yn sefyll ymron ar lannau Llynnau Mymbyr, ac wedi’i fframio gan yr olygfa glasurol o ‘bedol’ yr Wyddfa a’i chopaon cyfagos. Gyda’r fath dirlun ysbrydoledig ac amrywiol ar garreg y drws, nid yw’n syndod bod Capel Curig yn gartref i Ganolfan Fynydda Gendlaethol Plas-y-Brenin, un o brif ganolfannau gweithgareddau awyr agored y Deyrnas Unedig, sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau at ddant pawb o ddechreuwyr a theuluoedd i fynyddwyr (a mynyddwragedd) profiadol.
Dod o hyd i lety yng Nghapel Curig a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.