Yn gryno. Golygfeydd o’r glannau, siopau, cychod a gwylio adar.
Mae Deganwy yn ffasiynol and soffistigedig. Ar lannau aber Afon Conwy rhwng tref Fictoraidd Llandudno a thref ganoloesol Conwy, saif mewn lleoliad breintiedig gyda golygfeydd trawiadol ar draws y dŵr i Gastell Conwy ac Ynys Môn. Mae yma draeth o dywod a cherrig yn ogystal ag un o brif atyniadau Deganwy, sef marina, modern, smart a datblygiad newydd ar y cei sy’n cynnwys gwesty sba. Mae’r dref hefyd yn adnabyddus am ei dewis da o siopau ffasiynol a bwytai.
Ymhellach i’r de, ond gan aros yn agos at y dŵr, mae Cyffordd Llandudno yn le bywiog gyda sinema naw-sgrîn fawr a digon o lefydd parcio am ddim. Bydd y rhai hynny sy’n mwynhau natur yn cael eu denu at olygfeydd naturiol Gwarchodfa Natur RSPB Conwy, gwarchodfa wlyptir gerllaw Afon Conwy sy’n nodedig am ei rhostogion, cornicyllod, telorion yr hesg, hwyaid yr eithin a rhegen y dŵr. Mae’r warchodfa groesawgar hon yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Ceir yma lwybrau cerdded wedi’u gosod yn dda, mannau gwylio a safleoedd picnic, ac nid yw’n syndod bod y warchodfa yn denu nifer o deuluoedd yn ogystal ag adaregwyr.
Dod o hyd i lety yn Neganwy a Chyffordd Llandudno a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.