Yn gryno. Tlws yw popeth bychan yn achos y dref glan-môr hon a saif rhwng y brodyr mawr, Llandudno a Bae Colwyn.
Mae’n biti na fyddai pob tref glan-môr yr un fath â hon - yn daclus, dilychwin a heddychlon. Mae’r promenâd hir yn ymestyn ar hyd y lan o Fae Colwyn at forglawdd Llandrillo-yn-Rhos, lle ceir harbwr bychan sy’n eich atgoffa o bentref bychan ar arfordir Gorllewin Cymru.
Nid dim ond y promenâd traddodiadol ac awyr ffres y môr sy’n denu cerddwyr. Gallwch ddechrau eich taith trwy ymweld â Chapel Sant Trillo, adeilad bychan bwaog ar Rhos Point. Saif ar safle ffynnon iachusol hynafol, a hon yw’r eglwys leiaf ym Mhrydain, gyda lle i dim ond chwech o addolwyr. Mae Capel Sant Trillo yn un o 26 safle hanesyddol ar Lwybr Treftadaeth gylchol Llandrillo-yn-Rhos, sydd hefyd yn eich arwain i Fryn Euryn, lle gallwch weld gweddillion y fryngaer o’r 5ed ganrif a mwynhau golygfeydd eang.
Byddai eraill, efallai, yn honni fod Llandrillo-yn-Rhos yn fwy adnabyddus am ei rhan yn hanes darganfyddiad America. Yn draddodiadol, dywedir mai Christopher Columbus a laniodd yno gyntaf, ym 1492. Ond yn ôl fersiwn wahanol o’r hanes, glaniodd Cymro o’r enw Tywysog Madog yno 300 mlynedd ynghynt ar ôl hwylio o Landrillo-yn-Rhos.
Fel sy’n ddigwyliedig o dref fechan, mae Llandrillo-yn-Rhos yn lle cyfeillgar gyda nifer o siopau bychain unigryw. Mae hwylio, nofio, a physgota môr yn boblogaidd a gall beicwyr ddilyn llwybr sy’n arwain am filltiroedd ar hyd yr arfordir. Mae Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos, yn ôl y disgwyl, yn gyfeillgar iawn hefyd. Mae’r cwrs 18-twll ar y parcdir yn cynnig golygfeydd godidog o’r môr a honnir bod y cwrs ymhlith un o’r mwyaf blaengar yng Ngogledd Cymru.
Dod o hyd i lety yn Llandrillo-yn-Rhos a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.