Yn gryno. Pentref a’i draed yn y môr a’i ben yn y bryniau.
Os ydych yn hoffi cyrchfannau glan-môr tawel sy’n perthyn i’r oes o’r blaen, yna byddwch wrth eich bodd yn Llanfairfechan. Dyma bentref gwyliau bychan o oes Victoria sydd – yn debyg i Landudno ar draws y bae – yn driw i’w wreiddiau. Ceir yma bromenâd sy’n ymestyn uwchlaw traethau tywodlyd eang yn ogystal ag amryw o gyfleusterau ‘retro’: yn eu plith llyn cychod a lawnt fowlio. Yn ogystal â chynnig rhai o bleserau traddodiadol oesol y gwyliau glan-môr, mae Llanfairfechan hefyd yn boblogaidd ymhlith y rheini sy’n mwynhau hwylfyrddio a barcudfyrddio.
Mae cerddwyr hefyd yn cael eu denu i’r ardal hon. Saif Llanfairfechan ar ddarn cul o dir islaw llethrau serth y bryniau. Gellir dilyn teithiau cerdded golygfaol a hanesyddol, ac mae’r rhain yn cynnwys darnau o’r ffordd Rufeinig a oedd yn cysylltu canolfannau yng Nghaer a Chaernarfon. Teithiwch i lawr yr arfordir er mwyn ymweld â Rhaeadr Fawr Aber, golygfa ysblennydd sy’n werth ei gweld. Mae’r Rhaeadr yn disgyn 37m/120troedfedd i lawr y creigiau – ac fe’i lleolir mewn dyffryn hyfryd coediog ychydig filltiroedd i’r de o Abergwyngregyn. Mae Traeth Lafan hefyd yn cynnig golygfeydd gwych o fyd natur. Mae’r warchodfa natur leol fawr, a leolir ar ehangdir o forfa heli a thywod rhynglanwol, yn nodedig am ei hadar. Yn y gaeaf, mae’r traeth yn gartref i’r casgliad mwyaf o wyachod mawr copog yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â heidiau o bïod y môr, hwyaid brongoch a hwyaid llygad aur.
Dod o hyd i lety yn Llanfairfechan a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.