Nifer yr eitemau: 1079
, wrthi'n dangos 961 i 980.
Conwy
Dim ond y cynnyrch lleol gorau y mae'r Bistro yn ei ddefnyddio i greu prydau cartref. Rydym yn ymfalchïo yn ein cred mai dim ond y gorau fydd yn cael ei weini i'n gwesteion a'n nod yw rhoi profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy i chi.
Colwyn Bay
Caffi yng nghanol Bae Colwyn sydd yn cynnig coffi gwych a bwyd hyfryd, yn cynnwys dewisiadau llysieuol a heb glwten.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.
Llandudno
Roc glan môr traddodiadol gyda dewis eang o felysion a chofroddion Cymreig.
Dolwyddelan
Ceir gwasanaeth rhagorol a chyfeillgar yn y dafarn fach deuluol hon.
Llandudno Junction
Rydym ni’n prynu ac yn gwerthu pob mathau o lyfrau - o hen lyfrau a llyfrau ffeithiol allan o brint i lenyddiaeth, celf a llyfrau o ddiddordeb lleol, astudiaethau natur a llyfrau gyda rhwymiadau hardd (lledr a brethyn darluniadol).
Towyn
Bwyd Americanaidd ffantastig rhesymol. Dewch draw i roi cynnig ar un o’n heriau bwyta byrgyr!
Llanddulas
Mae'r Little Indian Chef yn darparu bwydydd traddodiadol gan gyflwyno blasau o ddiwylliant a chelfyddyd coginio India.
Llandudno
Caffi trwyddedig yn gweini pysgod a sglodion clasurol mewn ystafell fwyta achlysurol dafliad carreg o Orsaf Victoria Tramffordd y Gogarth.
Llandudno
Beth am roi cynnig ar Barnacles i fwynhau pysgod a sglodion traddodiadol ar lan y môr? Cewch fwyta i mewn neu ddewis bwyd i fynd.
Llandudno
Croeso i Gaffi Traeth Penmorfa. Bwyd cartref gwych lathenni o Draeth Penmorfa, Llandudno, gyda golygfeydd ar draws y bae i Ynys Môn ac Ynys Seiriol.
Llandudno
Cwrs golff antur/mini 18 twll y tu allan i Ganolfan y Copa. Cwrs heriol i bob grŵp oed.
Colwyn Bay
Ni fyddai trip i Barc Eirias neu Ganolfan Hamdden Colwyn yn gyflawn heb stopio yn Porter's.
Dolwyddelan
Lleolir West Wing ar y Ffordd Rufeinig gyda theithiau cerdded gwych o'r ardd i Lyn Elsi, y Rhaeadr Ewynnol a phentref hardd Betws-y-Coed gyda'i siopau niferus a llefydd gwych i fwyta.
Rhos-on-Sea
Deli a siop deisennau sydd wedi’i leoli yn nhref hyfryd arfordirol Llandrillo-yn-Rhos.
Llandudno
Mae Canolfan Siopa Fictoria yn nhref Llandudno ar arfordir Gogledd Cymru a dyma brif ganolfan siopa Gogledd Cymru, sydd oddeutu 45 milltir i’r gorllewin o Gaer.
Conwy
Yn gwerthu cwrw Cymreig, seidrau, wisgi, gwin ffrwythau a gwirodydd.
Llandudno
O deganau i nwyddau cartref i swfenîrs, mae Billy Lal yn gwerthu popeth am bris da!
Rhos-on-Sea
Rhoddion hyfryd i deulu a ffrindiau gan fanwerthwr annibynnol yng nghanol Llandrillo-yn-Rhos.
Llandudno
Os ydych yn chwilio am fwyd traddodiadol o safon mewn amgylchedd chwaethus a chroesawgar, dewch draw atom.