Yn gryno. Pentrefi cuddiedig yn y bryniau a’r rhostiroedd
Yn ei gerdd ‘In the Valley of the Elwy’, mae Gerard Manley Hopkins yn disgrifio tirwedd baradwysaidd, a chafodd ei ysbrydoli wrth iddo fynd am dro o Lanefydd i Fynydd y Gaer.
“Lovely the woods, waters, meadows, combes, vales, All the air things wear that build this world of Wales;
Dydi’r dyffryn hyfryd hwn, lle mae’r afonydd Elwy ac Aled yn llunio eu llwybr diymhongar o rostiroedd Hiraethog, ddim wedi newid llawer ers Oes Fictoria.
Yn wir, mae nifer o lenorion gwych wedi gwerthfawrogi’r dyffryn hwn. Mae pum llenor pwysig a aned yma rhwng y bymthegfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’u cofnodi ar y gofeb yn Llansannan. Roedd Llansannan yn lleoliad gwersyll carcharorion rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – mewn plasty a hawliwyd oddi ar yr Iarlles Dundonald. Yn anffodus, does yna ddim ôl ohono mwyach, ond os ewch chi draw yno, ystyriwch pa mor rhyfedd oedd hi i’r Carcharorion Rhyfel hynny yn y rhan anghysbell hon o Gymru.
Mae’r eglwys yng Ngwytherin wedi’i chysegru i Santes Gwenffrewi, oedd yn abades yn y mynachdy rhywbryd yng nghanol y 600au. Amgylchynir yr eglwys gan feini hirion, ac mae wedi bod yn leoliad pererindod ers yr wythfed ganrif. Mae’n fan aros poblogaidd ar Ffordd Pererinion Gogledd Cymru, sef taith gerdded 133 milltir o Dreffynnon yn Sir y Fflint i Ynys Enlli. Am damaid neu lymaid neu wely am y noson, mae’r Lion Inn wedi bod yn cynnig croeso cynnes ers dros 400 mlynedd.
Mae Llanfair Talhaiarn yn lle gwych i bysgota a cherdded drwy ei olygfeydd digyffwrdd, ac fe allwch chi ddringo Mynydd Bodran gerllaw i gael golygfeydd godidog. Ei fab enwocaf oedd John Jones, y pensaer a helpodd i oruchwylio’r gwaith o adeiladu y Palas Grisial yn Llundain. Fe’i ganwyd yn yr Harp Inn a bu farw yno hefyd; mae bellach yn huno o dan yr hen ywen yn y fynwent. Roedd yn fardd nodedig, a’i enw barddol oedd Talhaiarn, ar ôl y mynach a roddodd ei enw i’r pentref.
Dewch i Langernyw i ryfeddu ar y goeden fyw hynaf yn Ewrop. Credir fod Ywen Llangernyw dros 4,000 o flynyddoedd oed, ac mae’n sefyll ym mynwent Eglwys Sant Digain. Galwch i mewn i’r eglwys i weld y fedyddfaen ag un ochr iddi wedi gwisgo. Credir y byddai’n cael ei ddefnyddio i hogi cyllyll – naill ai gan filwyr Rhufeinig neu gan y cigyddion a oedd yn dod i‘r marchnadoedd a gynhaliwyd o amgylch yr ywen yn y ddeunawfed ganrif! Tra byddwch chi yma, ewch i Amgueddfa Syr Henry Jones, sy’n dathlu ei fywyd fel athronydd, addysgwr brwd ac un o gynghorwyr Lloyd George. Mae cartref y teulu wedi cael ei gadw i ddangos bywyd Fictoraidd mewn cymuned Gymreig.
I gael rhagor o wybodaeth am atyniadau a mannau diddorol ar Fynydd Hiraethog ewch i Pentrefi Hiraethog a Llyn Brenig.
Dod o hyd i lety ym Mhentrefi Dyffryn Elwy a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.