Yn gryno. Mannau agored ac awyr iach, llynnoedd, rhostiroedd a choedwigoedd.
Y prif atyniad yw Mynydd Hiraethog ei hun. Mae rhyw elfen unigryw ac oesol yn perthyn i’r ucheldir eang, anial ac agored hwn o rostiroedd grug a choedwigoedd.
Mae Cerrigydrudion yn ganolbwynt da ar gyfer teithio o amgylch yr ardal hon. Roedd y pentref yn fan aros poblogaidd ar hyd yr A5 ‘newydd’ yn y ddeunawfed ganrif, ond efallai mai sŵn rasio a glywch chi ar hyd y dirwedd amaethyddol erbyn heddiw. Mae’n gartref i drac rasio go-certi Glan y Gors, sy’n un o draciau Pencampwriaeth Prydain, ac yn ddiwrnod allan hynod boblogaidd.
Mae Pentrefoelas gerllaw hefyd yn fan cychwyn nifer o deithiau cerdded i Fynydd Hiraethog, er y gallai fod yn well gan ambell un aros yn y pentref i gael paned a rhywbeth bach blasus yng nghaffi’r Riverside Chocolate House! Galwch draw i weld y ffenestri lliw anhygoel yn eglwys y plwyf. Mae un ohonyn nhw’n cynnwys mefusen fechan fach, a’r her yw dod o hyd iddi. Roedd y safle’n gwasanaethu Ysbyty Ifan fel eglwys ar un adeg, lle’r oedd Urdd Marchogion Sant Ioan o Jerwsalem wedi sefydlu lloches i bererinion ar eu taith. Yn anffodus, gan fod ganddi awdurdod fel lloches, daeth yn noddfa i wylliaid a herwyr yn ystod y bymthegfed ganrif, gan achosi llawer o drwbl i’r trefi a’r pentrefi cyfagos.
Mae Llanfihangel ar lannau’r Afon Alwen wedi bod yn fan gorffwys a lluniaeth ers canrifoedd, i bererinion, porthmyn a theithwyr oedd yn mynd heibio’r dref. Mae’r Crown Inn yn Dafarn Porthmyn Gymreig restredig gradd II, ac roedd yn un o ffefrynnau William Wordsworth, a ysgrifennodd ‘The Vale of Meditation’ mewn teyrnged i’r dirwedd yr oedd yn ei mwynhau gymaint. Mae preswylwyr enwog yn cynnwys William Salesbury, brenhinwr cadarn a adeiladodd dŷ fferm ar gyrion y dref ym 1655, ac Owain Jones, a ysgrifennodd ‘The Myvyrian Archaiology ‘ ym 1801, a gedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae mwyafrif y teithwyr sy’n mentro i ardal Hiraethog yn ymweld â Llyn Brenig. Mae’r gronfa ddŵr hon, ynghyd â chronfa lai Llyn Alwen gerllaw, yn cynnig llawer o gyfleusterau hamdden ar gyfer cerdded, beicio, beicio mynydd, pysgota, hwylio a gwylio adar. Mae’r ganolfan ymwelwyr wych yn Llyn Brenig yn lle arbennig o dda i ddysgu mwy am dreftadaeth a hanes cyfoethog Hiraethog, sy’n mynd yn ôl i gyfnod cynhanesyddol. Mwynhewch ddiod boeth, cacen gartref neu bryd blasus yn y caffi ar lan y llyn gyda golygfeydd panoramig o’r llyn a’r cyffiniau.
Os am fwynhau mwy o brofiadau beicio, beicio mynydd a cherdded (yn ogystal â marchogaeth, mwynhau picnic a chwilio am wiwerod coch) ewch i Goedwig Clocaenog gerllaw, sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Pentref mwyaf deheuol Sir Conwy yw Llangwm, sef pentrefan sy’n cynnig bythynnod hunanarlwyo bendigedig y gallwch eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer cerdded, beicio a gwylio bywyd gwyllt Mynydd Hiraethog. Efallai y gallech chi ddod â thelesgop gyda chi, gan mai ychydig iawn o lygredd golau sydd yna yn yr ardal anghysbell hon, ac mae yna sioe o oleuadau trawiadol i’w gweld ar noson glir.
Ond nid yw’r hafan dawel hon wedi bod heb ei drama. Rhwng 1886 a 1890, ymledodd Rhyfelau’r Degwm yng Ngogledd Cymru. Daeth ffermwyr Cymru i deimlo’n fwyfwy chwerw am y taliad degwm yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud i'r Eglwys Anglicanaidd – eglwys nad oedden nhw’n ei mynychu nac yn ei chefnogi. Datblygodd tensiynau cryf iawn, ac ar achlysur o orfod gwerthu tir a nwyddau er mwyn casglu’r degwm yn Llangwm ym 1887, aeth y sefyllfa’n gythrwfl gwyllt a threisgar, a arweiniodd at i 31 o brotestwyr gael eu dwyn o flaen eu gwell.
I gael rhagor o wybodaeth am atyniadau a mannau diddorol o amgylch Fynydd Hiraethog ewch i Bentrefi Dyffryn Elwy.
Dod o hyd i lety yn Hiraethog a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.