Yn gryno. Gwlân a dŵr, a’r cyfan mewn lleoliad gwych yn Nyffryn Conwy.
Mae ymwelwyr sy’n dewis gyrru i lawr Dyffryn Conwy ar hyd yr A470 o Landudno i Fetws-y-Coed, yn aml yn esgeuluso Trefriw. Camgymeriad mawr. Saif y pentref ar yr ochr draw i’r afon ar ffordd y B5106, ffordd sy’n dawelach – ac yn cynnig gwell golygfeydd – na’r briffordd. Ac yn goron ar y cyfan, gallwch ymweld â Threfriw.
Y Rhufeiniaid a ddaeth yma gyntaf (roeddynt wrth eu bodd â’r dyfroedd haearnol), ac roedd y pentref ffynhonnau hwn yn atyniad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr oes Victoria a deithiai yma ar stemar o Gonwy i ‘gymryd y dyfroedd’.
Mae dŵr yn elfen bwysig yn Nhrefriw (maddeuwch y gair mwys). Dŵr gwyllt Afon Crafnant, a ddaw o’r llynnoedd yn y mynyddoedd uwchlaw, sy’n cynhyrchu’r trydan i yrru’r peiriannau ym Melin Wlân Trefriw. Mae carthenni a brethyn cartref wedi’u cynhyrchu yma ers ymhell dros 150 o flynyddoedd. Gallwch fynd ar daith o amgylch y felin a gwylio’r peiriannau hynod gymhleth a swnllyd yn cymysgu, sythu, troelli, dirwyn a gwehyddu’r gwlân, cyn taro heibio’r siop i gael golwg ar y cynnyrch.
Mae’r dŵr yn llifo o Lyn Crafnant a Llyn Geirionnydd, dau lyn diarffordd a leolir yn uchelfannau Coedwig Gwydyr. Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol i dirlun garw, creigiog Eryri, mae Trefriw yn cynnig dewis o lwybrau beicio a cherdded hawdd (dilynwch rai o Lwybrau Trefriw) – heb anghofio’r pysgota gwych am frithyll a brithyll seithliw ym Mhysgodfa Crafnant.
Dod o hyd i lety yn Nhrefriw a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.