Hyrwyddo am dâl

Rydym yn falch o allu eich croesawu chi’n ôl i Sir Conwy! Rydym wedi eich colli chi! Wrth i gyfyngiadau yng Nghymru barhau i lacio, mae llawer o’n busnesau twristiaeth wedi ailagor bellach. Beth am archebu gwyliau gartref i archwilio ein hardal brydferth?

Garden Inn gan yr Hilton

Delwedd o ystafell wely ddwbl yng Ngwesty Hilton Garden Inn gyda golygfa o forlyn syrffio

Wedi’i leoli ar dir yr Adventure Parc sydd wedi ennill gwobrau, mae’r Garden Inn, gan yr Hilton, yn cynnig y gwyliau perffaith i’r sawl sy’n chwilio am wefr, a’r sawl sy’n mynd ar wyliau gartref ac sydd eisiau cyfuno antur gydag ymlacio. Mae’r gwesty pedwar llawr, 106 ystafell wely, sef Garden Inn cyntaf yr Hilton yng Nghymru, ac un o westai mwyaf y rhanbarth, wedi’i leoli ar safle antur sy’n gartref i lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd. Mae cyfleusterau i westeion yn cynnwys desg groeso sydd ar agor 24 awr, gwasanaeth ystafell, canolfan ffitrwydd i westeion yn unig, a WiFi am ddim ym mhob rhan o’r eiddo. Yn y gwesty cyrchfan unigryw hwn hefyd mae sba Wave Garden, sydd ar agor 7 niwrnod yr wythnos am driniaethau moethus a chyfle i ymlacio. Archebwch eich lle rŵan ar gyfer gwyliau haf yng Ngogledd Cymru.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Garden Inn yr Hilton.

Gwesty Dunoon

Delwedd o ystafell wely ddwbl a neu ddwbl yng Ngwesty'r Dunoon

Ail-agorodd Gwesty Dunoon ar 17 Mai, 2021. Dyma westy teuluol pedair seren AA,  wedi'i leoli rhwng Pen Morfa a Thraeth y Gogledd ar Stryd Gloddaeth, Llandudno. Archebwch eich gwyliau nesaf gartref a deffrwch ger y lli yng nghyrchfan gwyliau poblogaidd Llandudno. Mae bwyty'r gwesty wedi ennill dwy rosette AA am y tair blynedd diwethaf, ac mae’n enwog am ei fwydlenni traddodiadol, sy’n cynnwys cynnyrch lleol. Cewch y cyfraddau gorau drwy archebu lle’n uniongyrchol. Archebwch le rŵan drwy ffonio 01492 860787 neu anfon neges e-bost at dunnoonhotel@gmail.com.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Westy Dunoon.

Simon Baker gan Elevate Your Soul

Delwedd o sandalau cwrel yn cael eu gwisgo ar draed

Siop esgidiau annibynnol yn nhref brydferth Llandudno, Gogledd Cymru yw Simon Baker gan Elevate Your Sole.  Wedi’i sefydlu ym 1971, mae’r siop wedi bod yn darparu esgidiau ac ategolion o safon am bron i 50 mlynedd. Lansiodd y siop ei frand ei hun o esgidiau i ferched yn ddiweddar. Mae’r esgidiau newydd hyn wedi'u crefftio o ledr o safon, ac ar gael mewn ystod eang o liwiau bywiog ar gyfer yr haf. Yn berffaith i gyd-fynd â'ch gwisgoedd hafaidd. Dewch o hyd i ffefrynnau’r cwsmeriaid yn y siop hefyd, megis Skechers, FitFlop a Rieker i enwi ond rhai. Cefnogwch ein busnesau lleol ar eich gwyliau nesaf i Ogledd Cymru drwy ymweld â’n siopau annibynnol ffantastig.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Simon Baker by Elevate Your Sole

Amgueddfa’r Home Front

Delwedd o'r cwpl yn cerdded o amgylch yr Amgueddfa Ffrynt Cartref

Ail-agorodd Amgueddfa’r Home Front yn Llandudno ar 17 Mai, 2021. Archwiliwch yr Amgueddfa a chymryd cam yn ôl mewn amser i Brydain yn yr 1940au. Cewch brofi a thywys eich hunain o amgylch golygfeydd a synau bywyd dinesig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae miloedd o arteffactau gwreiddiol, wedi’u harddangos mewn modd dychmygol, mewn hen Orsaf Tân yn ystod y rhyfel. Mae croeso i chi ddod â chŵn ar eich taith o amgylch yr arddangosfa, sydd i gyd ar y llawr gwaelod. Ar ôl eich ymweliad, ewch i’r siop i brynu cofrodd i gadw o'ch profiad yno! 

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Amgueddfa’r Home Front Experience.

Oriel MOSTYN

Delwedd o bobl yn edrych ar ddarn o waith celf

Tu ôl i ffasâd Edwardaidd traddodiadol, yn nhref glan môr, prydferth Llandudno, mae MOSTYN, yr oriel celf gyfoes fwyaf yng Nghymru.  Mae’r prif orielau, galerïau manwerthu, y caffi a’r siop nawr wedi ailagor yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae arddangosfeydd cyfredol, sy’n cynnwys cerflunwaith, paentiadau a darluniadau, i gyd wedi cael eu hymestyn nes 20 Mehefin, 2021. Gyda staff cyfeillgar, gweithgareddau ar gyfer bob oed, siop braf a chaffi golau ac awyrog gyda golygfeydd tuag at y môr, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Oriel MOSTYN.

Rhandai Gwyliau Number 9

Delwedd o'r olygfa dros lan y môr Llandudno o ffenestr y fflat

Awydd deffro i olygfeydd o lan y môr? Mae Rhandai Gwyliau Number 9 yn llenwi’n gyflym ar gyfer yr haf. Arhoswch mewn adeilad rhestredig Fictoraidd, wedi’i leoli llathenni o’r traeth ar y promenâd, yn agos i fwytai a siopau lleol. Mae gan randai ystod eang o gyfleusterau, gan gynnwys dillad gwely a thywelion o safon. Mae WiFi am ddim ar gael ymhob rhandy, a gellir llogi rhandai sy'n addas i anifeiliaid anwes. Yn berffaith ar gyfer cyplau a theuluoedd. Archebwch eich gwyliau nesaf gartref yng Ngogledd Cymru rŵan.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Randai Gwyliau Number 9.

Gwesty St George

Delwedd o'r tu allan i Westy St George gyda'r môr yn y cefndir

Mae Gwesty’r St George’s mewn safle arfordirol ysblennydd ar y Promenâd yn edrych dros Fae godidog Llandudno. Ymhlith yr ystafelloedd gwely mae’r ystafelloedd newydd ar y to a gwblhawyd yn 2017. Mae’r ystafelloedd hyn yn manteisio ar eu safle uchel a'r olygfa odidog o'r Gogarth i Drwyn y Fuwch gan eu bod yn cynnwys drysau patio gwydr yn arwain at falconi sy’n cynnig golygfa banoramig o’r môr. Mae’r ystafelloedd hefyd yn cynnwys ychydig o’r dechnoleg ddiweddaraf, ystafelloedd ymolchi gwych gyda chawodydd mynediad gwastad a sinciau iddo fo a hi. Perffaith ar gyfer gwyliau rhamantus. Mae ystod o ddewisiadau ciniawa hefyd, gan gynnwys Bwyty’r Terrace a Lolfa’r Terrace sydd wedi ennill dwy rosette AA. Archebwch eich gwyliau nesaf gartref, rŵan.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Westy St George.

Stratford House

Delwedd o fynedfa flaen Stratford House

Mae Stratford House yn llety wely a brecwast coeth sy’n ymfalchïo yn ei ystafelloedd gwely sy'n cynnwys golygfeydd godidog o fae prydferth Llandudno.  Mae’r holl ystafelloedd gwely hardd wedi’u haddurno i safon uchel iawn gyda lliwiau a dodrefn moethus. Mae’r perchnogion a hyfforddwyd i safon QE2, QM2 yn y gorffennol yn darparu lefel uwch o wasanaeth, a byddant yn sicrhau eich bod yn cael arhosiad cyfforddus a hamddenol. Mae gan y llety gwely a brecwast achrediad Good to Go gan Visit Britain hefyd, sy’n nodi ei fod wedi gweithio’n galed i ddilyn canllawiau COVID-19  y Llywodraeth a'r diwydiant. Mae’r llety ar agor i hanner capasiti ar hyn o bryd er mwyn hwyluso rheoliadau cadw pellter cymdeithasol. Archebwch le rŵan i ddiogelu eich gwyliau gartref yn y gwely a brecwast ysblennydd hwn!

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Stratford House.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb