Hyrwyddo am dâl
Rydym yn edrych ymlaen at gael eich croesawu chi’n ôl yn ddiogel i Gonwy yr haf hwn. Os ydych chi’n trefnu taith funud olaf, edrychwch ar rai o’n darparwyr llety, siopau ac atyniadau isod.
Simon Baker gan Elevate Your Soul
Siop esgidiau annibynnol wedi ei lleoli yn Llandudno yw Simon Baker gan Elevate Your Sole. Mae amrywiaeth o frandiau poblogaidd ar gael, gan gynnwys Skechers, Rieker, Remonte, Josef Seibel, Fitflop, Fly London, Gabor a Waldlaufer. Beth am fachu bargen o’u sêl haf? Mae digonedd o esgidiau i ddewis ohonynt ond maen nhw’n gwerthu’n gyflym. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gydag unigolyn wedi’i hyfforddi i fesur eich traed er mwyn sicrhau bod eich plant yn barod i fynd yn ôl i’r ysgol. Ffoniwch y tîm yn uniongyrchol ar 01492875650 a byddant yn barod i’ch helpu i ganfod y pâr perffaith o esgidiau ar gyfer yr ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Great Orme Vertical
Ydych chi’n chwilio am antur yn Sir Conwy? Rhowch gynnig ar Great Orme Vertical. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu difyr a chyffrous i’r rhai sy’n newydd i’r gamp, a chyrsiau hyfforddi proffesiynol i rai sydd â mwy o brofiad. Mae’r cyrsiau hyfforddi dringo a mynydda yn hyrwyddo arfer diogel a chynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau i’w cynorthwyo i fod yn gerddwyr, dringwyr a sgrialwyr annibynnol. Mae gan y perchennog, Matt Jones, fwy na 30 mlynedd o brofiad fel hyfforddwr ac mae wrth ei fodd yn rhannu ei angerdd am antur awyr agored gyda phobl eraill. Mae’r gweithgareddau yn addas i bobl o bob oed a gallu. Beth am drefnu sesiwn pan fyddwch chi yn yr ardal?
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Hostel Llandudno
Mae Hostel Llandudno mewn tŷ tref Fictoraidd cain. Mae ganddo nenfydau uchel a siandelïers a nodweddion modern. Nid eich hostel arferol mohono! Mae pob ystafell wely ac ystafell ymolchi yn gwbl breifat ac ni fyddwch chi’n rhannu gydag unrhyw westeion eraill. Mae modd i deithwyr unigol, teuluoedd, neu grwpiau o hyd at 8 o bobl archebu lle. P’un a fyddwch chi am dreulio diwrnodau ar y traeth neu fynd i’r cefn gwlad neu fynyddoedd hyfryd, Hostel Llandudno yw’r sylfaen berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig. Archebwch nawr, a bydd profiad “Cartref oddi Cartref” yn aros amdanoch.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Min Y Don Llandudno
Chwilio am rywle i fynd ar lan y môr? Mae Tŷ Llety Min y Don yn Llandudno yn darparu llety o safon gyda golygfeydd hyfryd o lan y môr. Mae Min y Don yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar y safle, cysylltiad wi-fi cyflymder uchel am ddim a Theledu Clyfar sgrin fawr ymhob ystafell. Mae gan bob ystafell en-suite preifat gyda phethau ymolchi o ansawdd da, a chyfleusterau gwneud te / coffi. Mae wedi’i leoli gyferbyn â Phier Fictoraidd Llandudno ar odre’r Gogarth, a dyma’r sylfaen berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan Llandudno i’w gynnig.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Penmaenmawr B&B
Mae Penmaenmawr B&B yn westy gwely a brecwast hyfryd, sy’n gyfeillgar i gŵn, ac mae’n cynnig 2 ystafell wely ddwbl helaeth ac 1 ystafell wely sengl. Mae mewn tref fach gyfeillgar ar arfordir gogledd Cymru ac mae golygfeydd ar draws i Ynys Seiriol Ynys Môn a’r Gogarth yn Llandudno. Mae mewn lleoliad delfrydol ger traeth hir, felly gallwch fwynhau’r machlud hardd ac mae digonedd o le i chi a’ch cŵn. Archebwch eich lle nawr i ddeffro i weld golygfeydd o’r môr a brecwast cartref.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Gwesty’r Imperial
Ydych chi wedi trefnu eich gwyliau haf yng Ngwesty’r Imperial? Mae gan nifer o’r ystafelloedd gwely olygfeydd trawiadol ar draws y Bae ac mae gan rai o'r ystafelloedd ar y pumed llawr falconïau sy'n berffaith i dorheulo neu weld y golygfeydd o safbwynt arall! Gyda’i ffasâd Fictoraidd trawiadol, ei addurn ffasiynol a’i enw da rhagorol am fwyd a gwasanaeth, Gwesty’r Imperial yw’r man cychwyn perffaith ar gyfer teithio Llandudno a gogledd Cymru. O ran bwyta, gall y gwesteion ddewis rhwng Bwyty Chantrey sydd wedi ennill dwy roséd AA i fwynhau pryd o’r radd flaenaf, neu'r Terrace i gael awyrgylch sy'n fwy anffurfiol.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Parc Carafanau Craiglwyd
Beth am ddianc i Barc Carafanau Craiglwyd a mwynhau golygfeydd anhygoel dros Landudno ac Ynys Môn? Mae Parc Carafanau Craiglwyd yn lleoliad tawel a heddychlon sydd heb fod yn bell o atyniadau poblogaidd gogledd Cymru. Dyma’r amgylchedd perffaith ar gyfer ymlacio a gwylio’r machlud hardd dros Ynys Seiriol ar ôl diwrnod llawn yn darganfod atyniadau a lleoliadau prydferth gogledd Cymru. Mae gan y parc garafanau i’w llogi, gan gynnwys rhai â thybiau poeth, carafanau sy’n croesawu cŵn a charafanau moethus hyd yn oed. Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar ôl ar gyfer haf 2021 felly archebwch yn gyflym i osgoi cael eich siomi. Fel arall, archebwch wyliau gartref ar gyfer hydref 2021 neu wanwyn / haf 2022!
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Cofiwch fod cyfyngiadau ar waith o hyd ar draws Cymru i helpu i gadw pawb yn ddiogel, felly cofiwch edrych ar ein gwefan i gael y canllawiau diweddaraf. Cliciwch yma i gael y canllawiau diweddaraf.
#DewchiGonwyYnDdiogel
Cysylltiedig
#number# Sylwadau
Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?