Yn HafGwyliau

#HYSBYSEB -  Gwesty'r Shelbourne, Llandudno

Wedi’i leoli ar arfordir prydferth Gogledd Cymru, mae The Shelbourne, sydd gyda 15 ystafell wely, yn westy teuluol ac wedi’i leoli yng nghanol Promenâd Llandudno gyda golygfeydd panoramig dros Fae Llandudno a Phier Llandudno.

Pa un ai ydych chi yma am wyliau byr neu wyliau hir, mae The Shelbourne yn lleoliad perffaith i ymlacio, dadflino a chreu atgofion melys.

Mae gwestai yn cael mynediad at y maes parcio preifat sydd y tu ôl i’r eiddo, mae lifft i bob llawr yn y gwesty ac mae’n cynnig brecwast Cymreig traddodiadol blasus iawn!

Archebwch eich gwyliau heddiw a dechreuwch eich gwyliau o’r funud y cyrhaeddwch chi.

Darganfod mwy

I fyny i’r copa ar Dramffordd y Gogarth

Mae Tramffordd y Gogarth yn wirioneddol unigryw. Cafodd ei sefydlu yn 1902 dyma’r unig dramffordd ar ôl ym Mhrydain lle caiff y cerbydau eu tynnu gan geblau. Wedi’i phweru â stêm yn wreiddiol, mae’r dramffordd wedi’i

phweru â thrydan ers 1957 ac mae pedwar cerbyd ar ôl, yn dringo’r Gogarth o Orsaf Victoria yn Church Walks drwy gydol y dydd o fis Ebrill i fis Hydref.

Mwynhewch olygfeydd panoramig na ellir eu curo ar hyd y llwybr milltir o hyd. Mae tŷ weindio cebl ac arddangosfa yn y pwynt hanner ffordd, ac mae’r orsaf derfynol wrth ymyl Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth.

Darganfod mwy

Teithiau ar goets, cychod, bws a’r rheilffordd

Gyda chymysgedd o dirwedd i’w darganfod o fewn Sir Conwy, nid yw’n syndod bod yna sawl ffordd i ymweld â nhw.

Ewch ar y dŵr a mwynhau mordaith ymlaciol ar hyd Afon Conwy a mynd allan i’r môr o amgylch Bae Llandudno!

Gallwch gamu ymlaen a chamu i ffwrdd o’r Bws City Sightseeing ar daith drwy Landudno a Chonwy neu fwynhau taith o Marine Drive mewn hen goets neu ar Drên Tir Llandudno.

I gael y cyflwyniad gorau i Fetws-y-Coed, ewch ar y daith 40 munud yn y trên ar hyd llinell Dyffryn Conwy o Landudno, ac fe ewch chi heibio i rai o olygfeydd hyfrytaf o lan yr afon a’r mynyddoedd yng Ngogledd Cymru. 

Darganfod mwy

Arhoswch yn Sir Conwy, rydym yn groesawgar iawn!

Mae ein lleoedd i aros yn cynnwys popeth, gwestai ar lan y môr i dai gwledig moethus, llety bwtîc i wely a brecwast gyda phrisiau rhesymol, parciau carafan â digon o gyfarpar i randai hunanarlwyo a digon o lefydd sy’n gyfeillgar i gŵn!

Mae ein rhestrau yn tyfu - edrychwch ar ein hadran llety heddiw i ddewis y lle perffaith ar gyfer eich gwyliau!

Darganfod mwy

Beth sydd ymlaen yng Nghonwy! 

Dewch i ddarganfod ac archwilio’r ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yn Sir Conwy ac ymgollwch mewn tymor o brofiadau cyfareddol. 

Darganfod mwy

Cofiwch fynd i siopa!?

Mae gan Dewch i Gonwy siop ar-lein eu hunain sydd â chasgliad anferth o roddion a chynnyrch Cymreig. Hefyd gallwch ymweld â chanolfan groeso Llandudno a Chonwy i weld mwy! 

Darganfod mwy

 

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb