Peidiwch â gadael i’r felan gael y gorau arnoch…Dewch i Sir Conwy!

Mae popeth sydd ei angen arnoch am seibiant cofiadwy ar gael yng nghanol gogledd Cymru.

O grwydro tirweddau syfrdanol i flasu bwydydd sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd, dyma chwe rheswm dros gynllunio eich taith…

Darganfod Digwyddiadau yn Sir Conwy

Beth am ddarganfod digwyddiadau bywiog Sir Conwy, o deithiau hanesyddol ac arddangosfeydd celf arbennig, i ddigwyddiad bywiog blynyddol Strafagansa Llandudno?

Dewch i wylio’r Bencampwriaeth Snwcer, yr Ŵyl Gorau swynol, neu berfformiadau theatr arbennig.

Sioeau hud a lledrith, nosweithiau comedi a ‘The Last Dance’ gyda seren Celebrity Hunted, Giovanni!

Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, mae Sir Conwy yn cynnig rhywbeth cyffrous i bawb ei fwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Darganfod mwy

Dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn nhref ramantus Conwy

Mae Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr yn anrhydeddu nawddsant cariadon Cymru.

Yng Nghonwy, mae dathliadau hudolus i nodi’r diwrnod rhamantus hwn, gan gynnwys cyfnewid anrhegion, negeseuon o’r galon a chyfle i archwilio harddwch y dref.

Mae cyplau yn aml yn ymweld â Chastell Conwy neu’n mwynhau prydau clyd mewn bwytai lleol sy’n cynnig seigiau Cymreig traddodiadol.

Mae’r diwrnod yn adlewyrchu diwylliant Cymru a’i hanes cyfoethog, sy’n golygu ei fod yn achlysur pwysig i fynegi cariad a gwerthfawrogiad yn lleoliad canoloesol darluniadwy Conwy.

Trefnwch eich ymweliad...

Atyniadau Poblogaidd

Mae atyniadau i’r teulu cyfan, o’r Sŵ Fynydd Gymreig gyda lemyriaid a morlewod i Bier eiconig Llandudno, sy’n ymestyn 2,295tr dros y môr gydag arcedau difyrion a chaffis.

Beth am archwilio Gardd Bodnant, sy’n enwog am ei chasgliad arbennig o blanhigion, neu’r Rhaeadr Ewynnol a’r Gogarth?

Mae’r Tŷ Lleiaf, rhaeadrau arbennig Betws-y-coed a Chastell Conwy UNESCO hanesyddol, gyda’i waliau tref canoloesol, sy’n cynnig cyfuniad o natur a threftadaeth, i gyd i’w gweld yn Sir Conwy.

Chi biau’r dewis…chwiliwch am atyniadau yma…

Llwybr yr Arfordir

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn Sir Conwy yn cynnig cymysgedd perffaith o olygfeydd dramatig, traethau euraidd a threfi glan môr tawel.

Dewch i fwynhau golygfeydd arbennig o’r môr ac awyr iach y môr wrth grwydro’r llwybr hardd hwn.

Mae cyfle i adfywio eich meddwl a’ch corff gyda harddwch natur, p’un a ydych chi’n cerdded, rhedeg, neu’n cael hoe fach i edmygu’r olygfa.

Gallwch wella’ch profiad o’r llwybr, cofnodi eich taith a dysgu ffeithiau diddorol trwy lawrlwytho Ap Llwybr Arfordir Cymru!

Mae’n brofiad bythgofiadwy o’r arfordir.

Ysbrydoliaeth ar gyfer eich ymweliad nesaf!

Beth am ymweld â ni am fwy na diwrnod? Gallwch ymestyn eich taith ac aros noson neu ddwy, neu wythnos hyd yn oed!

Dewch i brofi’r gorau o letygarwch Conwy a chael cyfle i ymlacio wrth danllwyth o dân mewn gwestai bach neu westai moethus.

Dewch â’r teulu at ei gilydd i ymlacio mewn bythynnod hunan-arlwyo hudolus neu garafanau statig.

Beth well na chroeso cynnes Sir Conwy ar ddiwrnodau oer.

Dewch i ddarganfod blasau Sir Conwy!

Danteithion i’w mwynhau! Ydych chi wedi blino ar yr un bwytai a bwydlenni?

Mae Sir Conwy yn cynnig amrywiaeth hyfryd o ddewisiadau sy’n arddangos bwydydd Cymreig lleol, o fwydydd cain i bysgod a sglodion arobryn sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd a chyplau.

Rhan o’ch profiad Cymreig yw’r amrywiaeth eang o gynhyrchwyr bwyd a diod o safon yng ngogledd Cymru.

Chi biau’r dewis…porwch drwy ein rhestr yma…

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb