Yn gwanwynPasgAlys

Mae’r gwanwyn ar ei ffordd a pha adeg well na rŵan i archwilio tirweddau hardd a threfi bach del Conwy, Llandudno a thu hwnt.

Pa un ai ydych chi’n crwydro strydoedd hanesyddol Conwy, yn mwynhau awel y môr ar bromenâd Llandudno neu’n anturio’r cefn gwlad cyfagos, mae yna wastad rhywbeth newydd i’w ddarganfod.

Mae’r tymor newydd yn dod a bywyd newydd i’r ardal, gyda lliwiau hardd Gardd Bodnant, murmur bywyd gwyllt RSPB Conwy ac awyrgylch bywiog digwyddiadau lleol.

Felly ewch i nôl eich côt a gwneud y gorau o’r gwanwyn yn y rhan hardd yma o ogledd Cymru!


Ail-lansiad Hudolus Cerfluniau Alys yng Ngwlad Hud Llandudno

Os ydych chi’n hoff o stori glasurol Lewis Carroll yna mae gennym ni newyddion cyffrous iawn i chi! Mae Llwybr Alys Llandudno wedi’i ailwampio’n ddiweddar, ac mae rhai o’r cerfluniau wedi’u disodli’n gyfan gwbl gyda rhai newydd sbon.

Ar newydd wedd a gyda map newydd sbon danlli grai i dywys ymwelwyr ar hyd y daith, dyma’r adeg berffaith i archwilio Llwybr Alys.

Wedi’i ysbrydoli gan Alice Liddell, yr awen go iawn ar gyfer stori Lewis Carroll a oedd yn dod ar ei gwyliau i’r dref, mae’r casgliad yma o gerfluniau wedi bod yn rhoi gwên ar wynebau ymwelwyr ers blynyddoedd.

Rŵan, gyda’r ail-lansiad, gall ymwelwyr ailddarganfod y cymeriadau rhyfeddol ac ychwanegiadau newydd hefyd!

Gallwch brynu map newydd Alys yng Ngwlad Hud yng Nghanolfan Groeso Llandudno


Chwilio am y lle perffaith i fwynhau te prynhawn neu daleb i roi’n anrheg i anwylyd?

Mae gan Sir Conwy amrywiaeth o leoliadau hyfryd. Pa un ai ydych chi’n chwilio am gaffi Cymreig traddodiadol gyda brechdanau a chacennau blasus neu leoliad gyda golygfeydd godidog o’r môr i fwynhau sgon jam a hufen, mae yma rywbeth at ddant pawb.

Mae llawer o gaffis ac ystafelloedd te lleol yn gwerthu talebau anrhegion, gan wneud pethau’n haws i chi dritio’ch ffrindiau a’ch teulu gyda phrofiad bwyta arbennig.

Archwiliwch y dewisiadau te prynhawn gorau yng Nghonwy a gwnewch atgofion melys gyda’ch gilydd!

Chwilio am y lle perffaith i fwynhau te prynhawn neu daleb i roi’n anrheg i anwylyd?

Mae gan Sir Conwy amrywiaeth o leoliadau hyfryd. Pa un ai ydych chi’n chwilio am gaffi Cymreig traddodiadol gyda brechdanau a chacennau blasus neu leoliad gyda golygfeydd godidog o’r môr i fwynhau sgon jam a hufen, mae yma rywbeth at ddant pawb.

Mae llawer o gaffis ac ystafelloedd te lleol yn gwerthu talebau anrhegion, gan wneud pethau’n haws i chi dritio’ch ffrindiau a’ch teulu gyda phrofiad bwyta arbennig.

Archwiliwch y dewisiadau te prynhawn gorau yng Nghonwy a gwnewch atgofion melys gyda’ch gilydd!


Pasg Llawn Hwyl yng Nghonwy!

Beth am fwynhau atyniadau gwych Sir Conwy dros wyliau’r Pasg? Beth am fwynhau ychydig o hanes yng Nghastell Conwy neu flodau a llwybrau bendigedig Gardd Bodnant? Ewch i’r Sŵ Fynydd Gymreig i chwilio am wyau Pasg, a’r anifeiliaid wrth gwrs. Ewch ar daith mewn car cebl yn Llandudno neu archwiliwch Amgueddfa Reilffordd Dyffryn Conwy.

Dewch wyneb yn wyneb ag anifeiliaid fferm yn Manorafon Farm Park’s Easter Egg-sperience. Mwynhewch lwybrau natur RSPB Conwy neu felysion hyfryd Llandudno Chocolate Experience.

Mae manylion rhagor o ddigwyddiadau ar gael ar-lein i’ch helpu chi i fwynhau Pasg bythgofiadwy yng Nghonwy!


Adloniant Gwych yn Venue Cymru: Cerddoriaeth, Hud a’r Theatr Gerddorol

Mae gan Venue Cymru raglen gyffrous o sioeau, yn cynnwys sioe gerdd hynod lwyddiannus CHICAGO a’i hawyrgylch jasaidd nwydus (29 Ebrill tan 3 Mai 2025)!

Mi fydd hi’n noson wych o gerddoriaeth a gwesteion arbennig ar 14 Mehefin 2025 gyda Jools Holland a’i gerddorfa rhythm a blues enwog.

Bydd Ocean Colour Scene hefyd yn camu i’r llwyfan, gan berfformio eu hanthemau Britpop eiconig (5 Gorffennaf 2025).

Yn olaf, yn syth o’r West End, bydd The Lion, the Witch and the Wardrobe yn dod â hud Narnia i Landudno (5 Awst tan 9 Awst 2025).

Gyda drama, cerddoriaeth ac adloniant i bawb, Venue Cymru ydi’r lle i fod. Peidiwch â cholli allan ar y perfformiadau anhygoel yma!

Mae’r rhaglen lawn ar gael yma.


Ymlacio a chael eich cefn atoch: Gwyliau moethus yn Sir Conwy

Ar ôl diwrnod prysur yn archwilio llwybrau a thirweddau anhygoel Sir Conwy neu fwynhau adloniant gwych neu bryd o fwyd blasus, beth am ymlacio yn un o lefydd aros croesawus yr ardal.

O westai glan môr hyfryd a llefydd gwely a brecwast bwtîc i fythynnod cefn gwlad clyd, mae yma rywbeth i bawb. Deffrwch i olygfeydd arfordirol anhygoel, cefn gwlad heddychol neu strydoedd bach neis.

Pa un ai ydych chi’n chwilio am le i ymlacio neu anturio, mae gan Sir Conwy hafan dawel i chi gael eich cefn atoch yn barod am ddiwrnod arall o ddarganfod.

Archebwch eich gwyliau rŵan a gwneud y gorau o’ch ymweliad! 


Angen cymorth…

Cynllunio trip i Sir Conwy? Mae ein tîm cyfeillgar yn y Ganolfan Groeso yn barod iawn eu cymwynas!

Pa un ai ydych chi’n chwilio am yr atyniadau gorau, y llefydd gorau i fwyta, trysorau cudd neu’r llety perffaith, mae gennym ni gyngor arbenigol i wneud eich ymweliad yn un bythgofiadwy.

Cysylltwch â Chanolfannau Croeso Llandudno neu Gonwy.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb