Nifer yr eitemau: 133
, wrthi'n dangos 61 i 80.
Conwy
Mae Dylan’s Conwy’n fwyty cyfeillgar sydd ond tafliad carreg o’r cei godidog yng Nghonwy.
Rhos-on-Sea
Caffi i’r teulu sy’n cael ei redeg yng nghanol cymuned Llandrillo-yn-Rhos. Mae gweini bwyd a theisennau o ansawdd gyda dewisiadau llysieuol, fegan a heb glwten yn rhan fawr o’n bwydlenni ffres, cartref.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Llandudno
Bwyty Groegaidd a chyfleuster bwyd i fynd teuluol sy’n gweini bwyd Groegaidd cartref modern a thraddodiadol.
Llandudno
Pysgod a sglodion blasus a rhesymol dafliad carreg o draeth Llandudno. Beth arall sydd ei angen arnoch?
Llanrwst
Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig Gradd II o’r 15fed Ganrif ac yn ystafell de yn Llanrwst. Mae bwthyn adnabyddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefyll ar lan Afon Conwy, yr ochr draw i’r Bont Fawr.
Penmaenmawr
Tafarn wledig draddodiadol gyda chroeso cynnes Cymreig yng nghanol Dwygyfylchi.
Colwyn Bay
Gyda golygfeydd anhygoel yn edrych dros Ddyffryn Conwy a’n cwrt cysgodol, mae Y Ffwrnais yn lle perffaith i gwrdd â ffrindiau a theulu.
Llandudno
Pizza, pasta, prydau â stêc o Gymru a rhai traddodiadol o Fôr y Canoldir mewn lleoliad cyfeillgar, sy’n croesawu plant.
Rhos-on-Sea
Croeso i Number 25 - y bar a’r bistro lleol yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi’i leoli ar Rodfa Penrhyn (yn rhif 25 i fod yn benodol!) yng nghanol y pentref hyfryd hwn, mae Number 25 yn gweini bwyd a diodydd bum noson yr wythnos.
Llandudno
Bwyty a bar teuluol yn cynnig bwyd tymhorol blasus ac amgylchedd braf i gael diod yn Llandudno.
Llandudno
Beth am roi cynnig ar Barnacles i fwynhau pysgod a sglodion traddodiadol ar lan y môr? Cewch fwyta i mewn neu ddewis bwyd i fynd.
Conwy
Pizza traddodiadol bendigedig wedi’u crasu â thân coed a dewis heb ei ail o jin a chwrw lleol, o fewn waliau hanesyddol Conwy.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Llanfair Talhaiarn
I brofi’r dafarn goetsys draddodiadol orau, yna rhowch gynnig ar y Black Lion, Llanfair Talhaiarn.
Llandudno
Mae The Loaf Coffee & Sandwich Bar yn arbenigo mewn coffi arbennig, cacennau cartref a bwyd hyfryd mewn awyrgylch cynnes a chartrefol.
Towyn
Bwyd Americanaidd ffantastig rhesymol. Dewch draw i roi cynnig ar un o’n heriau bwyta byrgyr!
Penrhyn Bay
Wedi’i leoli ym Mae Penrhyn, mae Home from Home yn fwyty lleol annibynnol sydd yn cynnig croeso cynnes mewn lleoliad cyfoes, sy’n cael ei yrru gan angerdd am fwyd da a gwasanaeth cyfeillgar.